Jayne Bryant

Oddi ar Wicipedia
Jayne Bryant
AS
Aelod o'r Senedd
dros Gorllewin Casnewydd
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganRosemary Butler
Mwyafrif4,115 (14.8%)
Manylion personol
GanwydCasnewydd, Sir Fynwy
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
GalwedigaethGwleidydd

Gwleidydd Llafur Cymru yw Jayne Bryant. Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Gorllewin Casnewydd ers 2016.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Cafodd Bryant ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Mynychodd Ysgol Uwchradd St Julian ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Keele.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd yn ymgeisydd rhanbarthol dros Gymru yn Senedd Ewrop yn yr ail le ar restr y blaid Lafur yn 2014, ond ni etholwyd.[1] Fe'i dewiswyd fel ymgeisydd Llafur dros Orllewin Casnewydd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016 i ddilyn Rosemary Butler oedd yn ymddeol,[2] ac fe gadwodd y sedd i Lafur.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Martin Shipton (13 August 2013). "Jayne Bryant targets seat at the European Parliament". walesonline.
  2. "Jayne Bryant chosen as Labour candidate for Newport West seat". South Wales Argus.
  3. "ASSEMBLY ELECTION 2016: Labour retains Newport West". South Wales Argus.