Carl Sargeant

Oddi ar Wicipedia
Carl Sargeant
Ganwyd27 Gorffennaf 1968 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 2017 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Cei Connah Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddChief Whip, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Minister for Local Government and Communities, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cabinet Secretary for Communities and Children Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLlafur Cymru, y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PlantJack Sargeant Edit this on Wikidata
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mewn swydd
19 Mai 2016 – 3 Tachwedd 2017
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJeffrey Cuthbert
Dilynwyd ganAlun Davies[1]
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Alun a Glannau Dyfrdwy
Mewn swydd
1 Mai 2003 – 7 Tachwedd 2017
Rhagflaenwyd ganTom Middlehurst
Dilynwyd ganJack Sargeant

Gwleidydd o Gymro oedd Carl Sargeant (27 Gorffennaf 19687 Tachwedd 2017) a oedd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant yn Llywodraeth Cymru.[2] Roedd wedi cynrychioli etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy ers iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Cafodd ei wahardd o'r Blaid Lafur ar 3 Tachwedd 2017 yn dilyn honiadau am ei ymddygiad a fe'i ganfuwyd yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sargeant yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd Sargeant yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu mewn ffatri gemegol arbennigol yn Mostyn. Roedd hefyd yn archwilydd ansawdd ac amgylcheddol ac yn aelod o Dîm Ymateb Argyfwng y safle. Hyfforddodd fel diffoddwr tân diwydiannol a bu'n lywodraethwr yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva. [3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Carl Sargeant yn 2011

Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Gyngor Tref Cei Connah a bu'n byw yn y dref hyd ei farwolaeth. Datblygodd ei ddaliadau gwleidyddol pan ddaeth cynhyrchu dur i ben yng ngwaith Shotton yn 1980, a arweiniodd at gyfraddau uchel o ddiweithdra yn yr ardal. Daeth yn ymgyrchydd gweithgar dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn erbyn trais yn y cartref..[3]

Etholwyd Sargeant i'r Cynulliad gyntaf yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003, dan ddilyn Tom Middlehurst oedd wedi sefyll lawr.[4]

Yn y Trydydd Cynulliad, fe'i apwyntiwyd yn Brif Chwip y Grŵp Llafur a'i swydd gyntaf yn y Llywodraeth oedd y Dirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad. Parhaodd gyda swydd y Prif Chwip pan cyhoeddwyd y glymblaid rhwng Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar 19 Gorffennaf.[5]

Yn Rhagfyr 2009, daeth yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yng nghabinet Carwyn Jones. Mewn cyfweliad gyda'r Flintshire Chronicle, soniodd Sargeant am ei falchder o fod yr unigolyn cyntaf o ogledd Cymru i ddal y swydd.[5]

Yn 2011 daeth yn Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ym Mehefin 2011, diswyddodd y tri comisiynydd o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gan ddweud bod y corff wedi colli hyder eu rhanddeiliaid.[6] Gwnaeth y ddau a oedd hefyd yn aelodau o Gomisiwn Ffiniau i Gymru ymddiswyddo o'i swyddi yno, ac arweiniodd hyn at y chweched adolygiad o etholaethau San Steffan i gael ei oedi yng Nghymru.[7]

Roedd wedyn yn Weinidog Tai ac Adfywio hyd at Medi 2014, pan gafodd ei benodi yn Weinidog Cyfoeth Naturiol.[8]

Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016, fe'i apwyntiwyd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru. Ar 3 Tachwedd 2017 fe gollodd ei swydd fel yn dilyn honiadau am aflonyddu rhywiol. Fe'i waharddwyd o'r Blaid Lafur hefyd tra fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ar 7 Tachwedd 2017 cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah. Roedd ganddo wraig a dau o blant.[9]

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod "mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e'n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad".

Ar 11 Gorffennaf 2019, cyhoeddwyd canlyniad y cwest i'w farwolaeth a cofnododd y crwner, John Gittins, achos o hunan-laddiad. Dywedodd hefyd y dylai mwy o gefnogaeth gael ei roi i weinidogion sy'n colli'u swyddi.[10]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Tom Middlehurst
Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy
20032017
Olynydd:
Jack Sargeant
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Brian Gibbons
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
20092011
Olynydd:
ad-drefnwyd y swydd
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
20112013
Olynydd:
ad-drefnwyd y swydd
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Gweinidog dros Adnoddau Naturiol
20132016
Olynydd:
ad-drefnwyd y swydd
Rhagflaenydd:
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant
20162017
Olynydd:
ad-drefnwyd y swydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welsh Government | First Minister appoints new Ministerial team". gov.wales. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2017.
  2.  Busnes y Cynulliad - Rhaglenni, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd - Carl Sargeant. Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  3. 3.0 3.1  Carl Sargeant AM - Proffil Aelod o'r Cynulliad. Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2017.
  4. "'He made a big contribution to Welsh public life' – Carl Sargeant's role in politics". Daily Post. 7 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2017.
  5. 5.0 5.1 "Carl Sargeant: An authentically working class politician committed to social justice". Western Mail. 7 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2017.
  6. "Welsh local government boundary commissioners sacked". BBC News.
  7. "Boundary review put back to 2012". South Wales Evening Post.
  8. "Y Prif Weinidog yn cyhoeddi Cabinet newydd". Llywodraeth Cymru. 11 Medi 2014. Cyrchwyd 12 Medi 2014.[dolen marw]
  9. Carl Sargeant wedi’i ddarganfod yn farw , Golwg360, 7 Tachwedd 2017.
  10. Crwner cwest Sargeant: 'Angen cefnogaeth i weinidogion' , BBC Cymru Fyw, 11 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd ar 7 Mehefin 2020.