Sue Essex

Oddi ar Wicipedia
Sue Essex
Sue Essex


Cyfnod yn y swydd
3 Mai 1999 – 3 Mai 2007

Geni (1945-08-29) 29 Awst 1945 (78 oed)
Cromford, Swydd Derby, Lloegr
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur (DU)

Gwleidydd Seisnig yw Susan "Sue" Essex (ganed 29 Awst 1945), a chyn-aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Essex yn Cromford, Swydd Derby, a magwyd yn Tottenham, Llundain. Symudodd i Gymru yn 1971. Dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd sir ar Gyngor Caerdydd, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yn ddiweddarach.

Essex oedd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd o 1999 hyd 2007. Roedd hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio o 2000 hyd 2003, a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus o 2003 hyd 2007. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2007.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Essex to stand down at elections. BBC (19 Awst 2005).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd
19992007
Olynydd:
Jonathan Morgan
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio, Llywodraeth Cymru
20002003
Olynydd:
aildrefnwyd y swydd
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
20032007
Olynydd:
aildrefnwyd y swydd


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.