Peter Law
| Peter Law | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 2006 |
|
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 2005 – 2006 |
|
|
|
|
| Geni | 1 Ebrill 1948 Y Fenni, Sir Fynwy |
|---|---|
| Marw | 25 Ebrill 2006 (58 oed) Nant-y-glo, Blaenau Gwent |
| Plaid wleidyddol | Annibynnol |
| Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Y Blaid Lafur (DU) (hyd 2005) |
| Priod | Trish Law |
Gwleidydd Cymreig oedd Peter John Law (1 Ebrill 1948 – 25 Ebrill 2006). Roedd yn Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent o 1999 ymlaen ac fe arhosodd yn aelod yno pan etholwyd ef yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 i San Steffan fel Aelod Seneddol dros yr un etholaeth. Yr oedd yn aelod o'r Blaid Lafur am y rhan fwyaf o'i oes ond yn y blynyddoedd olaf roedd perthynas chwerw rhyngddo â'r Blaid Lafur. Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yr oedd wedi dysgu Cymraeg. Bu hefyd yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent.
Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel cynghorydd a daeth i amlygrwydd yn dilyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 pan benodwyd ef gan Alun Michael yn ysgrifennydd llywodraeth leol a'r amgylchedd. Collodd ei swydd yn y cabinet pan ddaeth Rhodri Morgan yn brifweinidog a ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Peter Law yn feirniadol iawn o'r glymblaid honno.
Yn 2005 penderfynnodd y Blaid Lafur ddewis ymgeisydd seneddol i Blaenau Gwent o restr menywod-yn-unig. Cythruddwyd Peter Law gan hyn nes iddo benderfynnu sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr Etholiad Cyffredinol. Yn anorfod cafodd ei ddiarddel o'r Blaid Lafur ac o ganlyniad i hynny collodd llywodraeth Rhodri Morgan ei fwyafrif o un, gan fod Peter Law yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent yn y Cynulliad. Trodd Peter Law fwyafrif Llafur o 19,000 i fwyafrif o 9,000 iddo ef.
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent 1999 – 2006 |
Olynydd: Trish Law |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: Llew Smith |
Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent 2005 – 2006 |
Olynydd: Dai Davies |