Llew Smith
Gwleidydd Cymreig sy'n aelod o'r Blaid Lafur yw Llewellyn Thomas Smith, sy'n fwy adnabyddus fel Llew Smith (ganed 16 Ebrill 1944). Roedd yn aelod seneddol Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n aelod o'r Grŵp Ymgyrchu Sosialaidd (Socialist Campaign Group).
Safbwynt am Gymru a'r Gymraeg [golygu]
Daeth yn AS Blaenau Gwent yn 1992, a bu'n ASE yn Senedd Ewrop cyn hynny. Roedd yn un o'r ASau Llafur Cymreig, fel Neil Kinnock, a wrthwynebodd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a ymgyrchodd yn ei erbyn adeg y Refferendwm, er nad oedd yn un o'r "Gang o Chwech" ei hun. Yn ogystal mae wedi bod yn feirniadol o bolisïau i hybu'r iaith Gymraeg. Sefyllodd i lawr fel AS yn etholiad cyffredinol 2005.
Mewn ymateb i sylwadau gan Gwilym ab Owain yng Ngheredigion a Seimon Glyn yng Ngwynedd ynglŷn â phroblem y mewnlifiad i'r bröydd Cymraeg a'r angen am gael tai i bobl leol, honodd Llew Smith fod Plaid Cymru "yn fudiad hiliol".[1]
Ym Mehefin 2003, wrth roi dystiolaeth i'r Comisiwn Richard, a sefydlwyd i ystyried rhoi pwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd mai "rheitiach fyddai ystyried rhoi rhai o bwerau'r cynulliad yn ôl i gynhgorau lleol neu senedd San Steffan yn hytrach na sôn am eu ehangu." [2]
Cyfeiriadau [golygu]
| Senedd Ewrop | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: A.R. Rogers |
Aelod Senedd Ewrop dros Ddwyrain-Dde Cymru 1984 – 1994 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth (gweler Dwyrain De Cymru) |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: Michael Foot |
Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent 1992 – 2005 |
Olynydd: Peter Law |