Gang o Chwech

Oddi ar Wicipedia
Gang o Chwech
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata
Yn cynnwysNeil Kinnock, Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Fred Evans, Ioan Evans Edit this on Wikidata

Grŵp o ASau Llafur oedd y Gang o Chwech a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn sefydlu Cynulliad i Gymru yn 1978-79. Bathwyd yr enw dirmygus Gang o Chwech (Saesneg: Gang of Six) ar lafar i ddisgrifio'r ASau hyn o etholaethau De Cymru, sef Neil Kinnock, Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Alfred Evans a Ioan Evans. Roedd eu penderfyniad i sefyll yn gyhoeddus dros bleidlais nacaol yn mynd yn groes i bolisi swyddogol eu plaid a'u llywodraeth eu hunain.

Credir fod gweithred y Gang o Chwech wedi perswadio nifer fawr o bleidleiswyr Llafur traddodiadol i fwrw eu pleidlais yn erbyn sefydlu cynulliad ac felly wedi cyfrannu'n sylweddol at y pleidlais 'Na'. Buont yn chwarae ar ofnau y Cymry di-Gymraeg, yn enwedig yn y De, y byddai sefydlu Cynulliad yn eu gwneud yn fath ar ddinasyddion eilradd am nad oeddent yn medru'r Gymraeg. Cynorthwywyd Neil Kinnock yn gyhoeddus gan ei wraig Glenys, er ei bod yn siaradwr Cymraeg ei hun. Ar wahân i'r Kinnocks, y gwleidydd a roddai'r amlygrwydd huotlaf i'r "bygythiad" i fuddiannau'r di-Gymraeg oedd Leo Abse.[1]

Roedd gweddill ymgyrch y Gang o Chwech yn canolbwyntio ar gost sefydlu Cynulliad, gorlywodraethu a'r bygythiad i undod y Deyrnas Unedig.[2]

Cafodd ymgyrch pleidlais nacaol y Gang o Chwech effaith ar y canlyniad yn yr Alban hefyd. Mae rhai sylwebyddion a haneswyr o'r farn fod yr ymgyrchu cyhoeddus hyn yn erbyn un o bolisïau pwysicaf Llywodraeth Lafur James Callaghan wedi bod yn ffactor pwysig mewn tanseilio hygrededd y Blaid Lafur ar draws gwledydd Prydain ac felly wedi cyfrannu at fuddugoliaeth Margaret Thatcher yn etholiad cyffredinol 1979 a adawodd y Blaid Lafur "yn yr anialwch gwleidyddol" am ddau ddegawd bron.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 651.
  2. Hanes Cymru, tud. 651.