Eluned Parrott

Oddi ar Wicipedia
Eluned Parrott
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Canol De Cymru
Mewn swydd
5 Mai 2011 – 5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganGareth Bennett
Manylion personol
Plaid wleidyddolDemocratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Gwleidydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yw Eluned Parrott (ganwyd 1974). Roedd hi'n Aelod Cynulliad (AC) rhwng 2011 a 2016.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eluned yn Y Fenni. Astudiodd yn Ysgol Golegol San Pedr, yn Wolverhampton. Cafodd radd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae ganddi ddiploma ôl-raddedig mewn marchnata o'r Sefydliad Siartredig Marchnata.[angen ffynhonnell]

Cyn dod yn Aelod Cynulliad, gweithiodd fel rheolwr ymgysylltu cymunedol i Brifysgol Caerdydd, yn arwain tîm a oedd yn trefnu allgymorth addysgol a digwyddiadau cymunedol ar gyfer y cyhoedd. Mae hi wedi byw yn rhanbarth Canol De Cymru ers 1993; deng mlynedd yn etholaethau Canol Caerdydd a Gorllewin Caerdydd, ac yna deng mlynedd ym Mro Morgannwg.

Cystadlodd Eluned am sedd Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol 2010.[1] Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fawr o hanes o lwyddiant yn y sedd hon. Derbyniodd 15.2 y cant o'r bleidlais, y rhaniad pleidlais mwyaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer y sedd ers degawdau.[2]

Hi oedd y Democratiad Rhyddfrydol Cymreig cyntaf i gael ei hethol i Ranbarth Canol De Cymru yn 2011 ar ôl i'r ymgeisydd cyntaf, John Dixon, fethu ag ailennill ei sedd ar ôl cael ei wahardd.[3] Cafodd ei wahardd gan ei fod yn aelod o Gyngor Gofal Cymru. Ym mis Gorffennaf 2011, cafodd y portffolios Menter, Cludiant, Ewrop a Busnes gan yr arweinydd Kirsty Williams. O ganlyniad, yn y Cynulliad roedd hi'n eistedd ar y Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.[4]

Mae Eluned yn byw yn y Rhws, ym Mro Morgannwg.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Vale of Glamorgan results, 2010". The Guardian. Cyrchwyd 14 Mawrth 2012.
  2. "Eluned Parrott". Welsh Liberal Democrats. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-27. Cyrchwyd 14 Mawrth 2012.
  3. "No return to Welsh assembly for Lib Dems' John Dixon". BBC News. 5 Gorffennaf 2011.
  4. "Welsh Liberal Democrat Shadow Ministers announced". Freedom Central. 11 Gorffennaf 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-04. Cyrchwyd 2018-04-26.