Gareth Jones (gwleidydd)
- Gweler hefyd y tudalen gwahaniaethu Gareth Jones.
| Gareth Jones | |
|
Aelod Cynulliad dros Gonwy
|
|
| Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 3 Mai 2003 |
|
|
Aelod Cynulliad dros Aberconwy
|
|
| Cyfnod yn y swydd 1 Mai 2007 – 6 Mai 2011 |
|
|
|
|
| Geni |
14 Mai 1939 |
|---|---|
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Alma mater | Prifysgol Abertawe |
Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru a chyn Aelod Cynulliad yw Gareth Jones OBE (ganed 14 Mai 1939).
Ganed Gareth Jones ym Mlaenau Ffestiniog ac mae'n byw yng Nghonwy. Mae'n gyn brifathro Ysgol John Bright, Llandudno. Mae'n gynghorydd lleol ac yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid. Roedd yn AC Conwy o 1999 hyd 2003 a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg yn y Cynulliad. Yn dilyn hynnu, etholwyd yn Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn etholaeth newydd Aberconwy ar ôl cipio'r sedd gyda mwyafrif o 1,693 yn etholiad Mai, 2007. Ni safodd i gael ei ail-ethol yn 2011.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, yr iaith Gymraeg ac addysg.
Dolenni allanol [golygu]
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Gonwy 1999 – 2003 |
Olynydd: Denise Idris Jones |
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Aberconwy 2007 – 2011 |
Olynydd: Janet Finch-Saunders |