Ysgol Gymraeg Casnewydd
Ysgol gynradd yng Nghasnewydd yw Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mae'n un o ddwy ysgol Gymraeg yn ninas Casnewydd; y llall yw Ysgol Ifor Hael. Mae'n sefyll gyferbyn i Hartridge High School (ysgol gyfun Saesneg lleiaf Casnewydd). Agorodd yr ysgol ar 1 Medi 1993 ar ôl bron 30 mlynedd o waith caled gan aelodau'r gymuned. Gwelwyd cynnydd mawr yn y diddordeb mewn addysg Gymraeg yng Nghasnewydd a'r ardal leol ers 1976.[1]
Yn 2002 agorodd meithrinfa i blant ieuanc tair mlwydd oed yn yr ysgol a thyfodd nifer y ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol i dros 400.
Bydd mwyafrif disgyblion yr ysgol yn mynychu Ysgol Gyfun Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, oherwydd nad oes ysgol gyfun Gymraeg yng Nghasnewydd ar y foment. Mae'n tebyg y bydd trydedd ysgol gynradd Gymraeg yn cael ei hadeiladu yn fuan ac mae yna hefyd bosibilrwydd y ceir ysgol gyfun Gymraeg newydd rywbryd yn y dyfodol.
