Ysgol Gyfun Gwynllyw

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymraeg Gwynllyw (ers Medi 2022)
Arwyddair Cerddwn ymlaen
Sefydlwyd 1988
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Mark Jones
Sylfaenydd Lillian Jones
Lleoliad Heol Folly, Trefddyn, Pont-y-pŵl, Torfaen, Cymru, NP4 8JD
AALl Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Staff 61 (2017)
Disgyblion 926 (2017)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–18
Llysoedd      Ebwy
     Llwyd
     Rhymni
     Wysg
Lliwiau Gwyrdd a Glas Tywyll
Gwefan http://www.gwynllyw.org/

Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn Nhrefddyn, Pont-y-pŵl, Tor-faen oedd Ysgol Gyfun Gwynllyw. Ers Medi 2022 fe'i henwyd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw wrth droi'n ysgol 3-18 oed, yr ysgol gyntaf o'r fath yn sir Tor-faen.

Ysgol Gyfun Gwynllyw oedd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn ardal hen sir Gwent (bellach mae ysgolion eraill megis Ysgol Gwent Iscoed yng Nghasnewydd ac Ysgol y Gwyndy yng Nghaerffili). Dyma'r ardal lle mae’r nifer lleiaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Nod yr ysgol yw datblygu pobl ifanc sy’n hollol ddwyieithog cyn iddynt adael yr ysgol. Mewn sefyllfa debyg mae’n rhaid i’r ysgol lwyddo ac mae brwdfrydedd, egni ac ymroddiad y staff yn adlewyrchu’r dymuniad yma i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gwynllyw yn 1988 yn hen adeilad Ysgol Cynradd Abercarn. Yna arosodd am 3 flwyddyn cyn cael ei ail-gartrefi yn hen adeilad Ysgol Gyfun Trevethin o ganlyniad i'w twf disgyblion. Cafodd yr ysgol ei enwi ar gyfer Sant Gwynllyw brenin ardal Gwynllŵg, un o hen gantrefi Morgannwg.

Ers i'r ysgol cael eu beirniadu i fod yn "anfoddhaol" gan Estyn yn 2019, mae'r adroddiadau ar gyfer Gwynllyw wedi gwella o ganlyniad i newidiadau enfawr, gan gynnwys penodi Mark Jones yn bennaeth parhaol. Ym mis Medi 2022 agorodd floc Gwladys, gan droi'r ysgol yn ysgol 3-18 oed ac yn 2023, cododd yr ysgol o gategori "mesuriadau arbennig" Estyn.

Athrawon a Disgyblion Nodedig[golygu | golygu cod]

Athrawon[golygu | golygu cod]

Ion Thomas - Athro Gymraeg, enwog am eu lyfr "Blas Cas", ac am eu addasiad o "Sombis Rygbi" i'r iaith Gymraeg

Disgyblion[golygu | golygu cod]

Steffan Lewis - Gwleidydd

Luca Hoole - Chwaraewr Pel-droed ar gyfer y "Bristol Rovers"

Gabe Utseqs - Cerddor sy'n chwarae'r gitar yn y band Gymraeg "Pendramwnwgl"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.