Glyn Ebwy
Cyfesurynnau: 51°46′40″N 3°12′42″W / 51.7779°N 3.2117°W
| Glyn Ebwy | |
| Saesneg: Ebbw Vale | |
Glyn Ebwy |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 18,558 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO165095 |
| Prif ardal | Blaenau Gwent |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | GLYN EBWY |
| Rhanbarth cod post | NP23 |
| Cod deialu | 01495 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Blaenau Gwent |
| Cynulliad Cymru | Blaenau Gwent |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Blaenau Gwent | |
Prif dref Blaenau Gwent yw Glyn Ebwy. Dyma'r enw Cymraeg sydd hefyd ar y plwyf eglwysig,[1] sydd â phoblogaeth o tua 25,000.
Cynnwys |
Datblygiadau ar Safle’r Gwaith Dur Glyn Ebwy [golygu]
Ar hyn o bryd (2011), datblygir safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Yn y pen draw fe fydd cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.[2]
Gŵyl Garddio Genedlaethol Cymru [golygu]
Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lyn Ebwy ym 1992.[3]
Eisteddfod Genedlaethol [golygu]
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).
Ffeithiau Diddorol [golygu]
- Crëwyd Pont Porthladd Sydney gyda dur a haearn o weithfeydd dur Glyn Ebwy.[4]
- Crëwyd cledrau sydd ar Reilffordd Stockton and Darlington yng Nglyn Ebwy.[5]
Enwogion [golygu]
- Aneurin Bevan
- Brian Hibbard, actor
- Jeff Banks, dylunydd dillad
- Mark Williams, chwaraewr snwcer
- Victor Spinetti, actor
Gwybodaeth eraill [golygu]
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[6]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) C.P.D. Rygbi Glyn Ebwy
- (Cymraeg) Gwefan Y Gweithfeydd
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gweler Enwau Cymru, er enghraifft, sy'n nodi enw'r dref fel Glynebwy ac enw'r plwyf fel Glyn Ebwy.
- ↑ Y Weledigaeth. Adalwyd 20 Ebrill 2011
- ↑ (Saesneg) During the Garden Festival of Wales. Gŵyl Gerddi Cymru. Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
- ↑ Gweler Hanes Glyn Ebwy ar gwefan y BBC
- ↑ Gweler 200 mlynedd o'r chwildro diwydiannol yng Nglyn Ebwy.
- ↑ The Changing Face of Wales - Welsh Speakers
|
||||||||||