George Jeffreys
Cyfreithiwr yn enedigol o Gymru oedd George Jeffreys, Barwn 1af Jeffreys o Wem, (15 Mai 1645 – 18 Ebrill 1689).
Ganed Jeffreys yn Plas Acton, Gwaunyterfyn, Wrecsam, yn chweched fab i John a Margaret Jeffreys. Bu ei daid, John Jeffreys (bu farw 1622) wedi bod yn Brif Ustus cylchdaith Môn o'r Sesiwn Fawr, ac roedd ei dad wedi ymladd dros y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr.
Addysgwyd yn Ysgol Amwythig o 1652 hyd 1659, yna Ysgol St Paul's yn Llundain hyd 1661, Ysgol San Steffan am flwyddyn ac yna Coleg y Drindod, Caergrawnt yn 1662, gan adael heb radd ar ôl blwyddyn i ymuno â'r Inner Temple.
Enillodd ffafr y brenin Iago II, a gwnaethpwyd yn Farwn Jeffreys o Wem pan ddaeth i'r orsedd ac yn Arglwydd Ganghellor yn 1685. Daeth yn enwog fel y gŵr a lywyddodd dros y "Bloody Assizes", pan ddedfrydwyd llawer o ddilynwyr Dug Mynwy yn dilyn ei wrthryfel.
Pan ddiorseddwyd Iago II, ceisiodd ffoi o'r wlad, ond daliwyd ef a carcharwyd yn Nhŵr Llundain. Bu farw yno yn Ebrill 1689.
| Swyddi gwleidyddol | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Syr Fraser Pemberton |
Arglwyddi Prif Ustus Mainc y Brenin 1683–1685 |
Olynydd: Syr Edward Herbert |
| Rhagflaenydd: 'Yr Arglwydd Guilford (Lord Keeper)' |
Arglwydd Canghellor 1685–1688 |
Olynydd: Mewn Comisiwn |
| Teitlau Anrhydeddus | ||
| Rhagflaenydd: Iarll Bridgewater |
Custos Rotulorum Swydd Buckingham 1686–1689 |
Olynydd: Yr Alglwydd Wharton |
| Rhagflaenydd: Iarll Bridgewater |
Arglwydd Is-gapten Swydd Buckingham 1687–1689 |
Olynydd: Iarll Bridgewater |
| Rhagflaenydd: Iarll Bradford |
Arglwydd Is-gapten Swydd Amwythig 1687–1689 |
Olynydd: Iarll Bradford |
| Barwnigion Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd |
Baronet (o Bulstrode, Swydd Buckingham) 1681–1689 |
Olynydd: John Jeffreys |
| Pendefigaeth Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd |
Barwn Jeffreys o Wem 1685–1689 |
Olynydd: John Jeffreys |