Llannerch Banna
- Erthygl am y pentref yn sir Wrecsam yw hon. Gweler hefyd Llannerch.
Pentref bychan yng nhymuned De Maelor ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Llannerch Banna (Saesneg: Penley). Gorwedd yn ardal Wrecsam Maelor, ar y briffordd A539 tua hanner y ffordd rhwng Llangollen a'r Eglwys Wen. Saif bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ymddengys ei fod yn cymeryd ei enw o Penda, brenin Mercia yn y 7fed ganrif.
Gorwedd Llannerch Banna yn hen gwmwd Maelor Saesneg, ac roedd yn rhan o'r hen Sir y Fflint cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Mae yno ysgol gynradd, Ysgol Madras, ac ysgol uwchradd, Ysgol Maelor.
Mae'n fwyaf adnabyddus am yr Ysbyty Pwylaidd, a sefydlwyd wedi'r Ail Ryfel Byd ar gyfer cyn-filwyr Pwylaidd a'u teuluoedd. Tua dechrau'r 1950au roedd dros 2,000 o gleifion a staff yno, ond lleihaodd y nifer, a chaewyd yr ysbyty yn mis Mawrth 2002.
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre