Trefor, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Trefor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9739°N 3.096°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ268425 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yng nghymuned Llangollen Wledig, bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Trefor (Saesneg: Trevor).[1] Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Llangollen a Rhiwabon ar yr A539.

Rhed Camlas Llangollen trwy'r pentref. I'r de o'r pentref mae Traphont Pontcysyllte yn cludo'r gamlas honno dros Afon Dyfrdwy. Dynodwyd y draphont enwog fel Safle Treftadaeth y Byd ym Mehefin 2009. O fewn tafliad carreg i'r pentref veir Plas Trefor, Garth Trefor a Threfor Uchaf.

Camlas Llangollen yn Nhrefor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato