Abaty Glyn y Groes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun panoramig o Abaty Glyn y Groes
Yr abaty o'r ffrynt.
Tu fewn.
Y pwll chwiaid a chefn yr abaty.

Abaty Sistersiaidd yn nyffryn Afon Dyfrdwy rhyw filltir a hanner i'r gogledd o dref Llangollen yn Sir Ddinbych yw Abaty Glyn y Groes (Lladin: Valle Crucis) neu Abaty Glyn Egwestl. Daw ei henw o Groes Eliseg, sef hen groes Geltaidd o'r 8ed ganrif a saif gerllaw.

Daw'r enw o Groes Eliseg sydd heb fod ymhell o'r abaty. Mae'r groes yn llawer hŷn na'r abaty, a sefydlwyd ym 1201. Sefydlwyd Glyn y Groes o Abaty Ystrad Marchell ger Y Trallwng, dan nawdd Madog ap Gruffudd Maelor, rheolwr Powys Fadog.

Er bod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân ym 1236 a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin Edward I ar Gymru ym 1276-1277 a 1282-1283. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gwaith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl y pla a newidiwyd yr adeiladau o'r herwydd.

Yr Uchelwyr[golygu]

Dywedir i'r abaty ddioddef difrod yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Bu mwy o adeiladu yn y ganrif ddilynol, a chafodd yr abaty gyfnod o lewyrch, gyda llawer o ganmol ei fwyd a'i groeso gan y beirdd. Yma y bu farw Guto'r Glyn tua 1493; canodd ei gyd-fardd Gutun Owain, yntau'n ymwelydd cyson â'r abaty, farnwad iddo. Canodd y bardd Lewys Môn i abad Glyn y Groes. Yn ôl rhestr o fannau claddu'r beirdd yn y llawysgrifau ac ewyllys dyddiedig 1527 sydd, mae'n ymddangos, yn ddogfen ddilys, claddwyd Lewys Môn (neu Lodowidus Mon) yn yr abaty yn 1527.[1]

Pan roddwyd diwedd ar y mynachlogydd dan y brenin Harri VIII, yr oedd Glyn y Groes yn un o'r abatai llai a gaewyd ym 1537.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), tud. xi.