Eglwys Gadeiriol Wrecsam
Math | eglwys gadeiriol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam, Offa |
Sir | Wrecsam, Offa |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 87 metr |
Cyfesurynnau | 53.0474°N 2.9986°W |
Cod post | LL11 1RB |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Cysegrwyd i | Ein Harglwyddes o'r Gofidion |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Wrecsam |
Cadeirlan Gatholig a leolir yn Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, yw Eglwys Gadeiriol y Santes Fair.[1] Fe'i adeiladwyd ym 1857 fel eglwys plwyf a fel cofadail i wraig y diwydiannwr Richard Thompson. Mae beddrod Ellen Thompson, a fu farw ym 1854, i'w ganfod y tu fewn i'r adeilad. Edward Welby Pugin o'r ffỳrm Pugin & Pugin, ag arbenigai mewn eglwysi Catholig, oedd y pensaer; fe gynlluniodd yr eglwys mewn arddull Gothig adfywiedig, yn seiliedig ar adeiladau o'r 13g.[2] Dim ond 23 oed oedd Pugin pan gynlluniodd yr eglwys.[3] Ym marn yr hanesydd eglwysig Nigel Yates, dyma'r gorau o'r tair cadeirlan Gatholig sydd yng Nghymru.[4]
Roedd yr eglwys yn olynydd i gapel Catholig cyntaf Wrecsam, a'i sefydlwyd yn gudd gan Richard Thompson ym 1828, blwyddyn cyn y ddeddf a roddodd y rhyddid i addoli i Gatholigion.[1] Ym 1907 daeth eglwys y Santes Fair yn ddarpar-eglwys gadeiriol ar gyfer esgobaeth Catholig Mynyw,[2] sydd bellach â'i chadeirlan yn Abertawe. Ym 1987 fe'i penodwyd yn eglwys gadeiriol a chanolfan i esgobaeth newydd Wrecsam.[5] Ym 1994 penodwyd yr eglwys a thŷ'r offeirad[6] yn adeiladau rhestredig Gradd II.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Eglwys Gadeiriol y Santes Fair. Taith Cerdded Tref Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Roman Catholic Cathedral of St. Mary, Regent Street (S Side), Offa. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Cathedral Church of Our Lady of Sorrows, Wrexham. Gwydr Lliw yng Nghymru / Stained Glass in Wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Awst.
- ↑ Wooding, Jonathan M. a Nigel Yates (gol.) (2011). A Guide to the Churches and Chapels of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 74
- ↑ Catholigiaeth yn Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Presbytery at Roman Catholic Cathedral, Regent Street (S Side), Offa. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Awst 2014.