Gwaunyterfyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Acton, Wrecsam)
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Gwaunyterfyn. Weithiau defnyddir Parc Acton, enw'r parc mawr gerllaw, fel enw ar y gymuned hefyd. Ar un adeg roedd yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae wei ei lyncu gan dref Wrecsam; saif i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref.

Roedd 'Plas Acton yn perthyn i deulu Jeffreys yn y 17eg ganrif; yr aelod enwocaf o'r teulu oedd y barnwr George Jeffreys. Yn 1947 rhoddodd y perchennog, William Aston, y neuadd a'r parc yn rhodd i dref Wrecsam.

Cafwyd hyd i gasgliad o bennau bwyeill a chelfi eraill ym Mharc Acton, a ystyrir y casgliad pwysicaf o gelfi o ddiwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd yng Nghymru. Credir eu bod yn defnyddio copr o fwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Enwyd arddull y celfi ar ôl Parc Acton.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill