Bwlchgwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°04′20″N 3°05′55″W / 53.072222°N 3.098611°W / 53.072222; -3.098611

Bwlchgwyn
Kings Head Inn, Bwlchgwyn - geograph.org.uk - 1409946.jpg
Tafarn y King's Head ar yr A525 drwy Fwlchgwyn
[[File:|240px|Bwlchgwyn is located in Wrecsam]]
Bwlchgwyn

Bwlchgwyn Wrexham
Cymuned Brymbo
Sir Wrecsam
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost WRECSAM
Rhanbarth cod post LL11
Cod deialu 01978
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU De Clwyd
Cynulliad Cymru De Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Wrecsam

Mae Bwlchgwyn (hefyd Bwlch Gwyn) yn bentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae Bwlchgwyn ar yr A525, 5 milltir i'r gorllewin o Wrecsam a 10 milltir i'r dwyrain o Ruthun. Mae oddeutu dwy filltir o bentref Mwynglawdd ac yn ffinio â Rhostir Llandegla. 1148 oedd poblogaeth y pentre yn ôl Cyfrifiad 2001.

Tarddiad yr enw[golygu]

Efallai bod enw y pentref yn tarddu o glogwynau calchfaen yr ardal, neu efallai o'r carped o eira sydd yn debyg o orwedd dros y pentref yn y gaeaf. Posibilrwydd arall yw mai'r enw gwreiddiol oedd 'Bwlchgwynt'.

Daearyddiaeth[golygu]

Hawlir gan arwyddion ar ffin y pentref mai Bwlchgwyn ydy'r pentref uchaf yng Nghymru. Er mae'n debyg bod Garn yr Erw (yn Nhorfaen) yn uwch, mae Bwlchgwyn yn 1090 troedfedd (333 medr) uwchben lefel y môr, sydd yn effeithio ar yr hinsawdd leol yn arw. Saif y pentre ar dywodfaen o'r Oes Carbonifferaidd, sy'n cynnwys plwm.

O'r gulfan lle lleolir cofeb rhyfel y pentref fe welir gwastatir Swydd Gaer i'r dwyrain, ac i'r gorllewin, Bryniau Clwyd, yn benodol Moel Fenlli a Moel Famau. Mae tarddiad Afon Gwenfro i'r de o Fwlchgwyn. Tarddir dwy afon arall a'r rhostir i'r gorllewin, un sydd yn llifo trwy Nant y Ffrith, i'r gogledd y pentref ac yn ymuno ag Afon Cegidog yn Ffrith, a'r llall, Afon Clywedog, sy'n llifo i'r de o Fwlchgwyn cyn iddi ymuno ag Afon Dyfrdwy.

Hanes[golygu]

Roedd yna fryngaer o Oes yr Efydd yno, ond fe'i dinistriwyd gan waith chwarelu. Yr oedd hefyd ffordd Rhufeinig i fyny o Ffrith at Landegla.

Tyfodd y pentref yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Rhoddwyd cyflogaeth sylweddol gan chwareli a phyllau glo lleol. Cyflogwr mwya'r ardal oedd Gwaith Calch Y Mwynglawdd hyd at y saithdegau, pan gaeodd y chwarel.

Roedd sawl tafarn yn yr ardal; dim ond dau sy'n weddill; Y 'King's Head' (sydd dan fygwth o gau yn weddol aml rŵan) a'r 'Moors Inn' (Y 'Four Crosses cynt). Roedd yn bedwar capel; Nebo, Salem, Peniel a Bethesda. Dymchwelwyd Salem a Bethesda; Trowyd Peniel a Nebo yn dai. Mae Eglwys y Pentref wedi goroesi hyd at heddiw.

Agorwyd yr ysgol wreiddiol ym 1875. Roedd Edward Tegla Davies yn ddisgybl ac yn hwyrach yn athro yn yr ysgol.

Arwydd ar gyrion Bwlchgwyn

Heddiw[golygu]

Y pentref o gyfeiriad Y Mwynglawdd (Minera)

Adeiladwyd ysgol gynradd newydd ar Ffordd Brymbo erbyn hyn, efo tua chant o ddysgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n mynychu'r ysgol feithrin. Mae'n debyg bod gan Fwlchgwyn y Dojo uchaf yng Ngymru, sy'n cyfarfod yn nghanolfan gymuned y pentref. Mae'r ganolfan yn un brysur iawn, yn cynnig pob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys garddio, chwarae bowls, clwb cinio a chlinic ar gyfer babanod. Mae cwmni bws George Edwards and Son yn seiliedig yn y pentref.

Mae D.Jones a'i Fab yn cynnig gwasanaeth bws (Rhif 10) o Fwlchgwyn i Wrecsam yn ystod y dydd. Mae'r wasanaeth yn estyn (gyda Bysiau GHA) trwy Wrecsam i Stad Diwydiannol Wrecsam yn y noswaith (rhifau 141, 142). Mae GHA hefyd yn cynnig gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam, Rhuthun, Dinbych ac Y Rhyl yn ystod y dydd (Rhif X50).

Tywydd[golygu]

Mae cyfuniad y nodweddion daearyddol o gympas – Eryri i'r gorllewin, y gwastatir Swydd Gaer i'r dwyrain, y Môr Iwerddon a Bae Lerpwl i'r gogledd, ac yn agosach, Nant y Ffrith yn swatio yn y Bryniau Clwyd – yn creu hinsawdd newidiol. Oherwydd uchder y pentref, mae'n tueddu i fod yn 2 neu 3 gradd Celsius yn oerach na Wrecsam, er gyda nos, o dan wybren glir a gwynt ysgafn, gall y gwrthwyneb fod yn wir, pan mae awyr oer yn suddo i waelod y dyffryn. Pan ffurfir niwl pelydriad, gall y pentref fod uwchben y niwl mewn awyr glir. Yn ystod gwlybaniaeth mwy gyffredinol, mae Bwlchgwyn yn debygol o fod yn y cwmwl isel a symuda heibio'n gyflym weithiau. Daw gwyntoedd cryfach o'r gorllewin, a gallu cael grym storm. Pan ddaw gwynt o'r gorllewin, mae Bwlchgwyn yng nghysgod glaw Eryri, ac felly mae'n debyg bod cawodydd yn ysgafn. Mae'r gwrthwyneb yn wir pan ddaw gwlybaniaeth o'r ddwyrain, a gall eira mawr yn cyrraedd y pentref. A pan mae'r gwynt yn dod o'r gogledd-orllewin yn y gaeaf, mae awyr oer dros fôr cymharol o gynnes yn gallu achosi mwy o eira neu genllysg.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni Allanol[golygu]