Coedpoeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coedpoeth
Wrecsam
CymruWrecsam.png
Smotyn Coch.gif
Capel Rehoboth, Coedpoeth, sydd bellach wedi'i ddymchwel.

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Coedpoeth. Mae'r pentref yng nghanol olion diwydiant cloddio mwynau megis plwm, haearn a glo llefydd fel Brymbo, Bersham a'r Mwynglawdd (Minera).

Cynnwys

Pedair Cymuned [golygu]

Mae pedair rhan i'r Pentref:-

  • Y Nant yw'r hynaf o'r ardaloedd, sydd i'r gogledd o Afon Clywedog. Roedd llawer iawn o byllau-glo bach yn y rhan yma o'r pentref a chodwyd llawer o dai ar gyfer mwyngloddwyr calch, plwm a glo.
  • Mae'r Adwy yn ardal sy'n agos iawn i Glawdd Offa ac mae'r gair 'adwy' o bosib yn cyfeirio at fwlch yn y clawdd hwnnw. Mae'r Adwy yn ardal serth iawn, wrth i chi ddringo i fyny at y pentref sydd tua 795 troeddfedd uwch y môr. Yn yr Adwy roedd Capel anghydffurfiol cyntaf yr ardal sef Capel Adwy'r Clawdd (Methodistiaidd Calfinaidd).
  • Y Smelt yw'r enw ar yr ardal lle roedd coed efallai yn cael eu llosgi i drin y plwm a'r haearn.

Mwyngloddiwyd plwm o weithfeydd plwm Y Mwynglawdd, gerllaw.

Yr enw [golygu]

Defnyddiwyd yr enw (Coid Poch) yn gyntaf yn 1391 a'r sillafiad cyfoes yn 1412.[1] Mae'n bosib fod yr enw "poeth" yn cyfeirio at yr arferiad o losgi pren i greu siarcol a arferid ei ddefnyddio yn y gweithfeydd haearn a phlwm gerllaw, ers dyddiau'r Rhufeiniaid neu o bosib yn cyfeirio at y clirio tir a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol er mwyn cyrraedd y mwynau.

Ceir yma nifer o strydoedd gydag enwau diddorol iddynt, gan gynnwys: Stryd Pen-y-Gelli, Heol y Fynwent, Ffordd Talwrn, Allt Tabor, Llys Rehoboth, Ffordd Smelt, Ffordd y Cynulliad, Lôn y Gegin, Pen y Palmant a Hen Ffordd y Mwynglawdd. Ceir hefyd Heol Caradog, Heol Offa sydd yn agos iawn at Glawdd Offa.

Enwogion [golygu]

  • Mr Tom Carrington

Organydd, cyfansoddwr, argraffwr a sefydlydd 'Cloch Maelor', yn ogystal â Threfnydd Eisteddfod Wrecsam 1933. Roedd e'n organydd yng Nghapel Rehoboth, Coedpoeth, am tua 50 mlynedd.

  • Mr Dewi Humphreys

Prifathro cyntaf Ysgol Bryn Tabor (Ysgol Gynradd Gymraeg; sef. 1967), Athro Ysgol Sul Capel Rehoboth, Coedpoeth. Aelod o Cantorion Coedpoeth (1962-1995) a Chor Ieuenctid Coedpoeth (1947-1959). Hefyd sefydlodd Cangen Plaid Cymru yng Nghoedpoeth tua dechrau'r y 90 au.

  • Bu Annie Lennox yn byw yn y pentref ym 1988 (yn fras).
  • Hefyd bu Ricki Tomlinson, yr actor holl adnabyddus, yn byw yma.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Dictionary of Place-names of Wales, tuda 92-93; Gwasg Gomer; 2007.

Dolen allanol [golygu]


CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato