Pontfadog

Oddi ar Wicipedia
Pontfadog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlyntraean Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.935°N 3.14°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ233381 Edit this on Wikidata
Map
Englyn ar garreg fedd yn yr eglwys

Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Pontfadog. Saif yng nghymuned Glyntraean, yn Nyffryn Ceiriog gerllaw Afon Ceiriog, ar y ffordd B4500 rhwng Y Waun a phentref Glyn Ceiriog. Sant Ioan y Bedyddiwr yw'r eglwys leol, a ffurfiwyd plwyf newydd Pontfadog ar 15 Ebrill, 1848, o blwyf hynafol Llangollen.

Pontfadog
Yr hen orsaf

Safodd Derwen Bontfadog yn ymyl y pentref, yr un hynaf ym Mhrydain, ond syrthiodd y goeden oherwydd gwyntoedd cryfion ar 17 Ebrill 2013.[1]

Roedd gan Dramffordd Dyffryn Ceiriog orsaf yn y pentref.

Ceir yma dafarn a siop sydd hefyd yn gweithredu fel swyddfa'r post.


Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-22202815