A. H. Dodd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hanesydd Cymreig oedd yr Athro Arthur Herbert Dodd (1891 - 21 Mai 1975), a arbenigai yng nghyfnod y Tuduriaid a'r Stiwardiaid yng Nghymru ac yn hanes y Chwyldro Diwydiannol.

Bywgraffiadau[golygu]

Ganed Dodd yn Wrecsam, lle roedd ei dad Charles yn brifathro. Roedd tueddiadau academaidd yn y teulu; daeth un o'i dri brawd, C. H. Dodd, i amlygrwydd fel ysgolhaig yn arbenigo ar y Testament Newydd. Aeth i Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1911. Wedi graddio mewn hanes, ymunodd a chorfflu meddygol y fyddin (RAMC) ym 1914.

Penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ym 1919, ac ym 1930 dilynodd Syr John Edward Lloyd fel Athro Hanes yno. Bu hefyd yn dysgu yn yr Adran Efrydiau Allanol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymddeolodd ym 1958, ond bu'n gweithio wedyn fel curadur Amgueddfa Bangor ac yn dysgu yn y Coleg Normal.

Llyfrau[golygu]

  • The Industrial Revolution in North Wales (1933)
  • Studies in Stuart Wales (1952)
  • Life in Elizabethan England (1961)
  • A History of Caernarvonshire (1968)
  • Life in Wales (1972)
  • A Short History of Wales (1977) (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)