Racibórz
Oddi ar Wicipedia
Dinas ddiwydiannol yn ne Gwlad Pwyl ger y ffin â Gweriniaeth Tsiec yw Racibórz (Almaeneg: Ratibor, Tsieceg: Ratiboř). Fe'i lleolir ar lannau Afon Oder yn Swydd Racibórz yn foifodiaeth (talaith) Silesia. Mae ganddi boblogaeth o tua 58,400.
Enwir Racibórz ar ôl y Tywysog Racibor, sylfaenydd y ddinas yn y 9fed ganrif yn ôl traddodiad. Sefydlwyd Dugiaeth Racibórz ym 1172. Daeth llawer o fewnfudwyr Almaenaidd i'r ardal yn y 13eg ganrif a meddiannwyd Racibórz gan Awstria yn y 16fed ganrif a gan Brwsia ym 1742. Dychwelwyd y ddinas i Wlad Pwyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Gefeilldrefi [golygu]
Rwsia: Kaliningrad
Gwlad Pwyl: Kędzierzyn-Koźle
Yr Almaen: Leverkusen
Gweriniaeth Tsiec: Opava
Yr Almaen: Roth bei Nürnberg
Wcráin: Tysmenytsia
Ffrainc: Villeneuve d'Ascq
Gefeillir Swydd Racibórz â Bwrdeistref Sirol Wrecsam yng Nghymru.
Cyfeiriadau [golygu]
- Ardal Dinas Racibórz, Regioset-pl.
- "Racibórz." Encyclopædia Britannica. 2009. Encyclopædia Britannica Online Library Edition. 27 Gorffennaf 2009 <http://library.eb.co.uk/eb/article-9062374>.