Manic Street Preachers

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Manic Street Preachers
Manic Street Preachers in London2005-2.jpg
Manic Street Preachers, Llundain 2005
Gwybodaeth gefndirol
Man geni Baner Cymru Y Coed Duon
Cerddoriaeth Roc
Offeryn(au) cerdd Llais, gitâr, allweddellau, drymiau
Blynyddoedd 1986–
Gwefan http://www.manics.co.uk
Aelodau
James Dean Bradfield
Sean Moore
Nicky Wire
Cyn aelodau
Richey Edwards
Miles Woodward

Band roc o'r Coed Duon yn Ne Cymru yw Manic Street Preachers. Ffurfiwyd y band - yn wreiddiol o'r enw 'Betty Blue'[angen ffynhonnell] - yn Ysgol Gyfun Oakdale, 1986, gan ffrindiau James Dean Bradfield, Sean Moore, Nicky Wire a Flicker (Miles Woodward). Ym 1988, gadawodd Flicker y grŵp am resymau cerddorol.

Ar ôl recordio'r sengl 'Suicide Alley' fel triawd, fe ymunodd gitarydd newydd, Richey Edwards, â'r grŵp. Er nad oedd Edwards yn gallu chwarae'r gitâr yn dda iawn, ei brif gyfraniad oedd ysgrifennu'r geiriau gyda Nicky Wire.

Ar ôl rhyddhau tri albwm rhwng 1992 a 1994, roedd y band yn dechrau poeni am iechyd Richey Edwards; roedd yn camddefnyddio alcohol, hunan-anafu ag yn dioddef o anorecsia.[angen ffynhonnell] Fe ddiflannodd Richey Edwards o'i westy yn Llundain ar y 1 Chwefror 1995. Darganfuwyd ei gar yn ymyl Pont Hafren ond nid oes neb wedi'i weld ers iddo ddiflannu.

Bron iddynt orffen y grŵp ar ôl i Edwards adael, ond ail-ffurfiwyd y band fel triawd unwaith eto. Ar ôl diflaniad Edwards, aeth y band ymlaen i fwynhau llwyddiant masnachol ar sgìl llawer mwy nac yr oeddent wedi cyflawni yn eu blynyddoedd cynnar. Maent wedi rhyddhau naw albwm arall, gan gynnwys Everything Must Go (1996), This Is My Truth Tell Me Yours (1998) a aeth i #1 yn y siartiau Prydeinig yn 1998, Lifeblood (2004), a Send Away The Tigers (2007).

Aelodau[golygu]

Manic Street Preachers, Brighton 2004.

Albymau[golygu]

Senglau[golygu]

Enw Blwyddyn Lleoliad
"Suicide Alley" 1989 -
"Motown Junk" 1991 #94
"You Love Us" (Heavenly) 1991 #62
"Stay Beautiful" 1991 #40
"Love's Sweet Exile/Repeat" 1991 #26
"You Love Us" 1992 #16
"Slash 'N' Burn" 1992 #20
"Motorcycle Emptiness" 1992 #17
"Suicide Is Painless" (Theme from M.A.S.H) 1992 #7
"Little Baby Nothing" 1992 #29
"From Despair To Where" 1993 #25
"La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)" 1993 #22
"Roses in the Hospital" 1993 #15
"Life Becoming A Landslide EP" 1994 #36
"Faster/P.C.P." 1994 #16
"Revol" 1994 #22
"She Is Suffering" 1994 #25
"A Design for Life" 1996 #2
"Everything Must Go" 1996 #5
"Kevin Carter" 1996 #9
"Australia" 1996 #7
"If You Tolerate This Your Children Will Be Next" 1998 #1
"The Everlasting" 1998 #11
"You Stole The Sun From My Heart" 1999 #5
"Tsunami" 1999 #11
"The Masses Against The Classes" 2000 #1
"Found That Soul" 2001 #9
"So Why So Sad" 2001 #8
"Ocean Spray" 2001 #13
"Let Robeson Sing" 2001 #19
"There By The Grace Of God" 2002 #6
"The Love of Richard Nixon" 2004 #2
"Empty Souls" 2005 #2
"Underdogs" 2007 -
"Your Love Alone Is Not Enough" 2007 #2
"Autumnsong" 2007 #10
"Indian Summer" 2007 #22
"Umbrella" 2008 #47

Cysylltiadau allanol[golygu]


Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato