Stadiwm Dinas Caerdydd
Oddi ar Wicipedia
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Stadium) yn faes chwaraeon 26,828 sedd yn ardal Llecwydd, Caerdydd. Mae'n gartref i dîm pêl-droed Ddinas Caerdydd. Bu tîm rygbi Gleision Caerdydd yn chwarae eu gemau cartref yno hefyd rhwng 2009 a 2012.[1] Ar ôl Stadiwm y Mileniwm, dyma'r ail stadiwm fwyaf yng Nghymru. Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 22 Gorffennaf 2009 gyda gêm gyfeillgar rhwng Dinas Caerdydd a Celtic.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Y Gleision 'nôl ym Mharc yr Arfau. BBC Cymru (8 Mai 2012).