Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Lloegr
Llysenw The Three Lions ("Y Tri Llew")
Cymdeithas Cymdeithas Pêl-droed Lloegr (The Football Association) (FA)
Conffederasiwn UEFA
Prif Hyfforddwr Gareth Southgate
Capten Harry Kane
Mwyaf o Gapiau Peter Shilton (125)
Prif sgoriwr Wayne Rooney (53)
Stadiwm cartref Stadiwm Wembley
Cod FIFA ENG
Safle FIFA 12
Safle FIFA uchaf 3 (Awst 2012)
Safle FIFA isaf 27 (Chwefror 1996)
Safle ELO 7
Safle ELO uchaf 1 (y tro cyntaf: Tachwedd 1872; yn fwyaf diweddar: Mehefin 1988)
Safle ELO isaf 13 (1936)
Gêm ryngwladol gyntaf
Baner Yr Alban Yr Alban 0–0 Lloegr Baner Lloegr
(Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872)
Buddugoliaeth fwyaf
Iwerddon 0–13 Lloegr Baner Lloegr
(Belfast, Iwerddon; 18 Chwefror 1882)
Colled fwyaf
Hwngari 7–1 Lloegr Baner Lloegr
(Budapest, Hwngari; 23 Mai 1954)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau 15 (Cyntaf yn 1950)
Canlyniad Gorau Enillwyr, 1966
Pencampwriaeth Ewrop
Ymddangosiadau 9 (Cyntaf yn 1968)
Canlyniad Gorau 3ydd, 1968; cyn-derfynol, 1996


Diweddarwyd 27 Mehefin 2012.

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn cynrychioli Lloegr yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth y Gymdeithas Bêl-droed (Saesneg: The Football Association; FA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Mae Lloegr wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd pedairarddeg o weithiau gan ennill y gystadleuaeth ar eu tomen eu hunain ym 1966. Maent hefyd wedi chwarae ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop wyth o weithiau gan gynnal y gystadleuaeth ym 1996.

Hanes[golygu | golygu cod]

Honnir mai Timau Lloegr a'r Alban yw'r ddau dîm pêl-droed cenedlaethol hyna'r byd. Chwaraewyd y gêm gyntaf rhwng yr Alban a Lloegr ar 5 Mawrth 1870.

Am flynyddoedd, tan iddynt ymuno gyda FIFA yn 1906, yr Alban, Iwerddon a Chymru oedd eu hunig gwrthwynebwyr. Nid oedd ganddynt stadiwm cenedlaethol hyd nes i Wembley gael ei agor yn 1923. Roedd y berthynas rhyngddyn nhw a FIFA yn sigledig iawn, a gadawodd Lloegr yn 1928, cyn ailymuno yn 1946. Oherwydd hyn, ni chymeron nhw ran ym Mhencampwriaeth y Byd tan 1950.

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.