Castell Penarlâg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Penarlâg

Castell Normanaidd yw Castell Penarlâg a godwyd ar safle ger pentref Penarlâg, Sir y Fflint gan Iarll Caer. Mae'n sefyll ar ben bryncyn lle ceir olion bryngaer o Oes yr Haearn.

Ni wyddom ddim am hanes cynnar y safle ond cofnodir castell mwnt a beili Normanaidd yno mewn cofnod Seisnig o 1205.[1] Cipiwyd y castell a'i ddinistrio gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1265.[2] Ailadeiladwyd y castell gan Edward I o Loegr yn 1277 fel rhan o gyfres o gestyll Seisnig yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda'r bwriad o ostwng y Cymry.[3]

Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, mewn ymosod nos ar 21 Mawrth 1282, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[4] Mae'n debyg mai o Gastell Caergwrle, castell Cymreig a godwyd mewn ymateb i godi Castell Penarlâg, y gweithredodd Dafydd.[5]

Cipwyd y castell gan y Cymry unwaith eto yn 1294 yn nyddiau cynnar gwrthryfel Madog ap Llywelyn.[6]

Ailadeiladwyd y castell gan y Saeson yn y cyfnod 1297-1329 ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n sefyll heddiw yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys y gorthwr a'r llenfur. Bu cwffio yma yn y 1640au yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr hefyd. Adeiladwyd gerddi ac atgyweirio'r castell yn y 19eg ganrif pan godwyd ffug-gastell Penarlâg. Mae'n sefyll ar dir y castell newydd ac ar agor i'r cyhoedd ar y Sul yn unig.[7]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys. Ancient and Historic Wales. (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 315.
  3. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 338.
  4. Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988), tud. 18.
  5. Castles of the Welsh Princes, tud. 31.
  6. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 383.
  7. Clwyd and Powys, tud. 195.