Edward Hughes (Y Dryw)
Bardd a gweinidog o Sir y Fflint oedd Edward Hughes (Gorffennaf 1772 - 11 Ebrill 1850), a fu'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Y Dryw. Roedd yn ddyn lled fyr a dyna pam y dewisodd yr enw "Y Dryw".
Ganed Hughes yn Nannerch, Sir y Fflint, yn 1772. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Gwasanaethodd yn y fyddin fel caplan am rai blynyddoedd. Penodwyd ef yn rheithor Llanddulas ond symudodd wedyn i wasanaethu ym Modfari, lle y bu am 32 o flynyddoedd hyd ei farwolaeth yn 1850.
Roedd yn fardd adnabyddus yn y Gogledd. Daeth i sylw'r cyhoedd yn Eisteddfod Dinbych yn 1818 am ei awdl 'Elusengarwch', sy'n amlygu ei daliadau "gwerinol". Ynddi mae'n cwyno am gyflwr y tlodion yng ngwledydd Prydain lle mae'r "gwobrau mawr" yn cael eu dwyn gan y dugiaid a'r cyfoethogion yn "nofio mewn nwyfiant" tra bod y tlawd yn marw o eisiau bwyd. Cafwyd cryn gynnwrf yn yr eisteddfod pan ddyfarnodd Bardd Nantglyn a William Owen Pughe fod y wobr yn mynd i'r Dryw yn lle Dewi Wyn o Eifion.
Cyfeiriadau [golygu]
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Wrecsam, 1922)