Mynydd Helygain

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Helygain
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr293.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.23917°N 3.2075°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1957471926 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd31 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd y Cwm (Coed Cwm) Edit this on Wikidata
Map

Bryn a rhostir yng nghanol Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Mynydd Helygain. Mae'n gorwedd ar echel sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin, i'r de o Dreffnynnon, i'r de-ddwyrain ger pentref Rhosesmor. Bryn hirgul gyda sawl copa isel ydyw Mynydd Helygain, sy'n cyrraedd ei fan uchaf (964 troedfedd) fymryn i'r de-orllewin o bentref Helygain. Mae'n cwmpasu 1,700 acer.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Mynydd Helygain ceir Pentre Helygain a Helygain, gyda Llaneurgain i'r dwyrain. Ar y llethrau gorllewinol ceir Rhosesmor a'r Walwen ac i'r de ceir Rhes-y-cae. Mae'n gorwedd rhwng Bryniau Clwyd i'r gorllewin a gwastadedd arfordir Glannau Dyfrdwy i'r dwyrain.

Chwareli[golygu | golygu cod]

Mynydd Helygain: chwareli hen a newydd.

Yn y gorffennol ceid llawer o waith cloddio ar y bryn, e.e. am blwm yn ymyl Rhosesmor. Ceir chwarel gyfoes ger Bryn Siriol.

Cadwraeth[golygu | golygu cod]

Mae Mynydd Helygain wedi'i ddynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]