Clogyn Aur yr Wyddgrug

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Clogyn aur Yr Wyddgrug)
Clogyn Aur yr Wyddgrug
Enghraifft o'r canlynoldarganfyddiad archaeolegol Edit this on Wikidata
Deunyddaur Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu11 Hydref 1833 Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Amgueddfa Brydeinig Edit this on Wikidata
Perchennogyr Amgueddfa Brydeinig Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Man darganfod y clogyn aur; ceir plac yno bellach, yn nodi'r fan

Clogyn 23-carat aur mewn un-darn yw Clogyn aur Yr Wyddgrug neu Fantell aur Yr Wyddgrug sy'n dyddio o'r cyfnod 1900-1500 CC yn Oes yr Efydd. Fe'i darganfuwyd mewn cae o'r enw 'Bryn yr Ellyllon', Pentre, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yn 1833. Mae'n bosibl y bu'n rhan o wisg seremonïol, mewn cyd-destun crefyddol efallai. Fe'i cedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, ac mae nifer o archaeolegwyr blaenllaw Cymru wedi galw ar yr amgueddfa i ddychwelyd y clogyn i Gymru.

Darganfuwyd y "clogyn" gan ddynion codi cerrig ym Mryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug, ar 11 Hydref 1833. Tenant y cae oedd Langford, ac fe'i gwerthwyd i'r Amgueddfa Brydeinig yn 1836. Mwynfeydd Copr y Gogarth oedd y mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop yr adeg honno, ac mae'n bosib fod gan berchennog y fantell gysylltiad gyda mwynfeydd y Gogarth.[1] Dywedodd Dr Paul Belford (CPAT ei bod yn fwy na thebyg i'r fantell gael ei lunio yng Nghymru ond i'r aur ddod o'r Iwerddon; nododd hefyd fod y fantell hon yn "anrhaethol bwysig". Roedd gweitiau trin copr y Gogarth yn ardal y Fflint, lle roedden nhw hefyd yn trin efydd o Llanymynech, hyd at Oes yr Haearn.

Cloddiodd archaeolegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru y cae lle darganfuwyd y fantell eto yn 2013.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Roedd y fantell yn gorwedd ar weddilion dynol wedi'u corfflosgi, mewn cistfaen glai, oddi mewn i garnedd gladdu o Oes yr Efydd. Dim ond darnau o'r sgerbwd oedd yn gyfan ac roedd y "clogyn" wedi cael ei niweidio'n sylweddol trwy ei wasgu. Cofnodwyd y canfyddiad gan ficar yr Wyddgrug. Roedd tua 200-300 gleiniau ambr arno'n wreiddiol, mewn rhesi, ond dim ond un sy'n weddill erbyn heddiw. Gerllaw cafwyd darn o liain garw a 16 dryll o efydd panel a fu ar gefn y gwrthrych aur efallai: mewn mannau roedd yr aur wedi ei bwytho i'r aur gyda rivets efydd. Roedd yno ddau 'strap' hefyd. Yn ymyl y gistfaen roedd llestr (urn) yn cynnwys esgyrn llosgedig a lludw, tua 0.6–0.9 m o'r bedd.

Lled y gwrthrych yw 458 mm (18 modfedd). Mae hynny'n awgrymu iddo gael ei fwriadu ar gyfer rhywun o gorffolaeth ysgafn ac mae archaeolegwyr yn meddwl ei fod ar gyfer merch.

Galw am ei ddychwelyd i Gymru[golygu | golygu cod]

Mae'r clogyn enwog yn un o'r trysorau o Gymru yn yr Amgueddfa Brydeinig y mae nifer o bobl wedi bod yn galw am eu dychweliad i gartref yng Nghymru. Cafwyd arddangosfa ar fenthyg yn Yr Wyddgrug yn 2002 ac eilwaith yn 2013, ond mae'r Amgueddfa Brydeinig yn gyndyn iawn i adael i'r clogyn a gwrthrychau eraill – fel eu casgliad o feini ogam Cymreig sydd ar gadw mewn storfa – ddod yn ôl i Gymru. Yn ôl Dr Paul Belford (CPAT), "The British Museum acted as an agent of the imperialist mission, carefully curating treasures stolen from around the world as part of the wider colonial exploitation."

Stamp[golygu | golygu cod]

Ar 17 Ionawr 2017 ryddhaodd y Swyddfa Bost stamp yn dylunio'r fantell aur.

Stamp ac arni lun y Fantell Aur (2017)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Erthygl yn The National Wales; 16 Hydref 2021.
  • Powell, T. G. E., "The gold ornament from Mold, Flintshire, North Wales", Proceedings of the Prehistoric Society 19 (1953), 161-79
  • Taylor, J. J., Bronze Age goldwork of the British Isles (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1980)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Erthygl yn The National Wales; 16 Hydref 2021. Tud14-5.