Richard Wilson (arlunydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs

Arlunydd o Gymro oedd Richard Wilson (1 Awst, 1714 - 15 Mai, 1782).

Cafodd ei eni yn rheithordy Penegoes, ger Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. Roedd ei dad John Wilson yn rheithior yno ac wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd yn ei ddysgu mae'n debyg. Roedd ei fam, Alice Wynne yn perthyn i nifer o deuluoedd bonheddig a chefnog yng Nghymru.

Aeth i Lundain yn lanc 16 oed at arlunydd o'r enw Thomas Wright i ddysgu sut i beintio portreadau dan nawdd Syr George Wynne, perchennog mwynglawdd ac yn perthyn i'w fam. Ymhen 6 blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun yn peintio portreadau. Ar ôl ymweliad â'r Eidal (1749-1756), canolbwyntiodd ar dirluniau. Roedd yn arloeswr a fabwysiadodd arddull rhydd telynegol yn lle Clasuriaeth, gan baratoi'r ffordd i artistiaid diweddarach fel Gainsborough a Constable. Fe fu farw yng Ngholomendy, Sir Ddinbych.

Prif beintiadau[golygu]

  • Castell Caernarfon
  • Castell Dolbadarn
  • Afon Penegoes
  • Pont Dolgellau
  • Glyn Mawddach gyda Cader Idris
  • Castell Cilgerran
  • Castell Ddinas Bran

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.