Thomas Jones (Glan Alun)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Jones
FfugenwGlan Alun Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Mawrth 1811 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1866 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cannwyll-gwneuthurwr, gwerthwr teithiol Edit this on Wikidata
PlantJohn Thomas Alun Jones Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.

Bardd a llenor oedd Thomas Jones (11 Mawrth 181129 Mawrth 1866), a ysgrifennai dan yr enw barddol Glan Alun.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Glan Alun yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Cafodd ei ddwyn i fyny yn fferyllydd ac sefydlodd busnes yn Wrecsam. Aeth yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Methodistiaid. Cychwynodd fisolyn o'r enw Y Wenynen ond nid oedd yn llwyddiannus iawn. Aeth ei fusnes i'r wal a dechreuodd gwneud a gwerthu canhwyllau dros gwmni masnachol o Fanceinion. Goleddai syniadau Radicalaidd yr oes.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Ei unig waith cyhoeddedig yw'r gyfrol Ehediadau Byrion, a gyhoeddwyd yn 1862. Er nad oes lawer o werth llenyddol i'w cerddi maent yn enghraifft dda o'r farddoniaeth boblogaidd ar ganol y 19g. Mwy diddorol heddiw efallai yw'r llyfr taith byr ar ddiwedd y gyfrol, sy'n disgrifio ei daith o gwmpas canolbarth a gogledd Cymru yn y 1840au. Mae rhai o'r darluniau a geir ynddo, fel ei ddisgrifiad o dafarn yn Llandrindod ar ddiwrnod o law, yn dangos gwreiddioldeb a ffresni nas ceir fel rheol yn y rhan fwyaf o ryddiaith y ganrif.[1]

Gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Dadlennol darllen y fferyllydd, Thomas Jones, yn disgrifio natur yr elfennau cemegol yn Y Wenynen (1836)[2]. Disgrifiadau clir (ond ddim yn hollol gywir) o Ocsigen, Hydrogen a Nitrogen ynghyd â braslun o weddill yr "oddeutu wyth a deugain o elfenau (sic)" (gan gynnwys "brwmstan", y mettelau (sic) a'r naw o "briddau"). Mae R. Elwyn Hughes yn cyfeirio ato fel enghraifft dda o awdur poblogaidd ar gemeg y cyfnod[3].

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Glan Alun, Ehediadau Byrion (Hugh Jones, Yr Wyddgrug, 1862)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
  2. Jones, Thomas (1836). "Yr Elfenau (o'r Wenynen)". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 24 Medi 2019.
  3. Hughes, R. Elwyn (Gaeaf 1999). "Arfonwyson - Uchelgais a siom". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 31: 149-171. https://journals.library.wales/view/1277425/1290993/34#?xywh=-2125%2C-254%2C7166%2C4658.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: