Moel Fenlli
| Moel Fenlli (Bryniau Clwyd) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Moel Fenlli |
| Uchder (m) | 510.9 |
| Uchder (tr) | 1676 |
| Amlygrwydd (m) | 152.4 |
| Lleoliad | rhwng Llandudno a Wrecsam |
| Map topograffig | Landranger 116; Explorer 265 |
| Cyfesurynnau OS | SJ164600 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) a Dewey |
Mae Foel Fenlli yn gopa mynydd ac yn fryngaer a geir ym Mryniau Clwyd ger Rhuthun ar y daith o Landudno i Wrecsam; cyfeiriad grid SJ164600. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd.
Cynnwys |
Dosbarthiad [golygu]
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 358.5metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 510.9 metr (1676 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
Y fryngaer [golygu]
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw[2] sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.
Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r bedwaredd ganrif OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r Rhufeiniaid yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer.[3]
Delweddau [golygu]
Tarddiad yr enw [golygu]
Mae'r enw'n ddiddorol. Mae'n bosib y daw o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol a Nennius yn yr Historia Brittonum. Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12fed ganrif) at Fenlli Gawr yn ei gerdd enwog i osgordd Madog ap Maredudd o Bowys.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire (1929)