Moel Famau
Oddi ar Wicipedia
| Moel Famau (Bryniau Clwyd) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Copa Moel Famau |
| Uchder (m) | 561.5 |
| Uchder (tr) | 1842 |
| Amlygrwydd (m) | 272 |
| Lleoliad | rhwng Llandudno a Wrecsam |
| Map topograffig | Landranger 116; Explorer 265 |
| Cyfesurynnau OS | SJ161626 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) a Dewey |
Bryn ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Fflint yw Moel Famau. Y bryn yma yw copa uchaf Bryniau Clwyd. Mae'n ganolbwynt Parc Gwledig Moel Famau.
Ar y copa ceir Tŵr y Jiwbili, a adeiladwyd yn 1818 i ddathlu jiwbili y brenin Sior III. Chwalwyd y rhan uchaf o'r tŵr gan storm fawr yn 1862. Ar ddiwrnod clir gellir gweld yr Wyddfa, Ynys Manaw, Cader Idris a rhan helaeth o ogledd-orllewin Lloegr cyn belled a Cumbria o'r copa.
Cynnwys |
Galeri [golygu]
-
Moel Famau o gyfeiriad Moel y Gaer, Dyffryn Clwyd.
-
Moel Famau o Fwlchgwyn ger Wrecsam
Bywyd gwyllt [golygu]
Dyma gynefin y rugiar ddu brin, adar ysglyfaethus ac adar megis clochdar y cerrig sy'n nodweddiadol o ucheldir o'r math hwn.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Mam Tor (mynydd yn Swydd Derby, Lloegr)
Dolenni allanol [golygu]
Golygfeydd panorama o'r copa: