Creigiau Eglwyseg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Creigiau Eglwyseg

Creigiau amlwg sy'n ymestyn am oddeutu 4.5 milltir o'r gogledd i'r de nid nepell o Langollen, Sir Ddinbych yw Creigiau Eglwyseg. Ar eu huchaf (Cyfeirnod OS: SJ2144) mae Mynydd Eglwyseg yn 511 metr uwchlaw'r môr. Mae Dyffryn Eglwyseg yn cynnwys: Craig-y-Forwyn (World's End), Craig Arthur, Pinfold, Dinbren a Chreigiau Trefor. Mae'r creigiau hyn wedi'u clustnodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Calchfaen ydy'r graig ac mae o ddiddordeb arbennig i Geolegwyr; bu Charles Darwin yn astudio'r creigiau unigryw hyn ar ei ffordd i Gwm Idwal.

Ar y copa ceir nifer o gloddfeydd claddu sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd a cheir nifer o chwareli plwm ynddynt. ceir chwareli llech yng ngogledd-orllewin y creigiau.

Bu dringwyr creigiau yma ers dros 40 mlynedd yn ymarfer eu crefft.[1]

Rhwng yr afon Ddyfrdwy a'r creigiau, saif adfeilion Abaty Glyn y Groes a'r groes Geltaidd enwog honno: Piler Eliseg, sy'n dyddio nôl i'r 9ed ganrif.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.rockfax.com/areas/area.php?id=1022 Gwefan Saesneg Rockfax
  2. http://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/llangoll/llangoll.htm Gwefan Saesneg CPAT

Dolenni allanol[golygu]