Huw Morus (Eos Ceiriog)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wynebddalen Eos Ceiriog, casgliad o waith Huw Morus. gol. Gwallter Mechain, a argraffwyd yn Wrecsam yn 1823

Bardd Cymraeg o'r 17eg ganrif oedd Huw Morus neu Huw Morys, weithiau Huw Morris (1622 - Awst 1709), a adnabyddir hefyd dan ei enw barddol Eos Ceiriog. Roedd yn un o feirdd mwyaf toreithiog a phoblogaidd ei gyfnod a gyfansoddodd nifer o gywyddau a cherddi carolaidd ar sawl fesur. Bardd yn pontio'r bwlch rhwng y canu caeth a thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr ar y naill law a'r canu rhydd poblogaidd ar y llall ydoedd.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Huw Morus ym 1622, yn Llangollen yn ôl pob tebyg, yn fab i Forys ap Siôn ap Ednyfed. Symudodd ei dad a'r teulu i fferm Pont-y-meibion ym mhlwyf Llansilin, Glyn Ceiriog, tua'r flwyddyn 1647. Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar y bardd ond mae'n debyg iddo gael ei addysg naill ai yn Ysgol Ramadeg Rhuthun neu yn Ysgol Rad Croesoswallt dros y ffin yn Swydd Amwythig. Ymddengys iddo dreulio ei oes yn ddi-briod ar fferm y teulu.

Gwaith llenyddol[golygu]

Cafodd Huw nawdd gan sawl uchelwr yn y Gogledd-ddwyrain, yn cynnwys William Owen, Brogyntyn, Syr Thomas Mostyn, Gloddaeth, a Syr Thomas Myddleton, Castell y Waun. Canodd sawl marwnad nodedig, yn cynnwys un ar ffurf ymddiddan rhwng y byw a'r meirw i Barbara Miltwn, gwraig Richard Middleton o'r Plas Newydd, Llansilin, a gyfrifir yn un o'r rhai gorau yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Roedd yn eglwyswr pybyr a breniniaethwr brwd ac mae sawl un o'i gerddi yn ymosod ar y Pengryniaid, Oliver Cromwell a Gwerinlywodraeth Lloegr. Ni allai ddioddef syniadau'r Piwritaniaid Cymreig fel Morgan Llwyd o Wynedd, Vavasor Powell a Walter Cradock, a chawsant eu dychanu a'u enllibio ganddo'n gyfrwys ond didrugaredd. Canai nifer o gerddi moesol a defosiynol yn ogystal.

Ond ar y cyfan nid ei ganu politicaidd sy'n amlygu dawn y bardd ar ei gorau. Enillodd yr enw 'Eos Ceiriog' am ei fod yn cyfansoddi cerddi serch a natur mor berseiniol, gan ddefnyddio gan amlaf y mesurau carolaidd a cheinciau poblogaidd. Carolau Mai a Charolau Haf yw llawer o'r rhain, llawn swyn natur a'r byd amaethyddol. Roedd yn arloeswr ar y math yma o ganu, gan gymryd y canu poblogaidd ar y pynciau hyn a'i gynganeddu i greu math arbennig o ganu rhydd acennog. Sefydlodd ysgol o ganu rhydd telynegol a ddaeth yn boblogaidd iawn yn y 18fed ganrif, ond prin bod llawer o'i efelychwyr niferus yn dod yn agos iddo o ran crefft a mynegiant.

Canu cymdeithasol yw llawer o'i gynnyrch, a thrwyddo gawn gip cofiadwy ar fywyd y werin bobl yng nghefn gwlad Cymru yn ail hanner yr 17eg ganrif.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y Rhyfel Catrefol; golygwyd gan Ffion Mair Jones

Cyfeiriadau[golygu]

  • Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd)

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: