Jonathan Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg oedd Jonathan Hughes (1721 - 1805). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol Bardd a Byrddau (1778).[1] Fe'i ganed yn Llangollen, Sir Ddinbych yn 1721.

Gwaith llenyddol[golygu]

Ymlygwyd ei ddawn farddol yn gynnar yn ei fywyd. Roedd yn un o gyfeillion y bardd ac anterliwtwr Twm o'r Nant. Fel Twm, ac yn ei gwmni'n aml, bu'n cystadlu yn yr eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn negawdau olaf y 18fed ganrif. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a oedd yn feistr ar y mesurau carol Cymraeg traddodiadol. Erys llawer o'r cerddi hyn mewn llawysgrif heb eu cyhoeddi a'r unig gyfrol a gyhoeddodd yn ystod ei oes oedd Bardd a Byrddau a hynny yn 1778. Gwyddys iddo gyfansoddi o leiaf un anterliwt hefyd, sef Y Dywysoges Genefetha, a gyhoeddwyd yn 1744. Pan fu farw yn 1805 lluniodd ei gyfaill Twm o'r Nant englyn ar gyfer ei garreg fedd.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Dywysoges Genefetha (1744)
  • Bardd a Byrddau (Stafford Prys, Amwythig, 1778)
  • Gemwaith Awen Beirdd Collen (tua 1807). Detholiad o gerddi gan feirdd ardal Llangollen a gyhoeddwyd gan fab Jonathan Hughes. Gwaith Jonathan Hughes yw swmp y cynnwys.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru