Dewiniaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dewin)
"Circe yn Cynnig y Cwpan i Wlysses" gan John William Waterhouse

Dewiniaeth, (hefyd dewindabaeth, hudoliaeth, y gelfyddyd a swyngyfaredd) yw'r term am ddylanwadu ar ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl a ffenomena trwy foddion goruwchnaturiol, paranormal neu gyfriniol. Gallai hefyd gyfeirio at yr ymarferion a ddefnyddir i wneud hynny, a'r credau sy'n defnyddio'r rhain i esbonio digwyddiadau a ffenomena. Mewn termau ocwltwyr modern, dewino yw'r weithred o gyfuno'r bydol â'r aruchel er mwyn canolbwyntio'r ewyllys fel y caiff ddylanwad ar ddigwyddiad, gwrthrych, a bodau. Yn aml mae cyfriniaeth, ocwltiaeth, crefydd, gwyddoniaeth, a seicoleg yn dylanwadu ar ddewiniaeth.

Un o nodweddion sylfaenol dewiniaeth yw'r gred y gall efelychiad o weithred gael yr un effeithiau â'r weithred go iawn. Gwneir hynny drwy gyfatebiaeth symbolaidd. Enghraifft o hynny yw "lladd" neu niweidio dòl gŵyr sy'n cynrychioli person go iawn, yn y gred y byddai'r fath efelychiad yn cael effaith cyffelyb ar y person hwnnw. "Dewiniaeth sympathetig" yw'r enw ar y cysyniad hwn. Mae dewiniaeth sympathetig yn ffurfio rhan hanfodol o bron bob math o ddewiniaeth, o siamaniaeth i ddewiniaeth ddefodol, sy'n ffocysu ar y defnydd o ddefodau sydd llawn cyfatebiadau symbolaidd cymhleth er mwyn dewino, yn ogystal â mewn defodau crefyddol megis yr offeren Gristnogol.

Yn aml defnyddir technegau i weld pethau'r tu hwnt i'r dewin mewn gofod ac amser, yn bennaf i ddarogan y dyfodol. Roedd unwaith adeg yng Nghymru pan fyddai darogan yn rhan barchus, gydnabyddedig o fywyd cymdeithas, fel mae sylwadau Gerallt Cymro ynglŷn ag awenyddion[1] a hanes dynion hysbys yng Nghymru yn tystio. Yn ôl tystiolaeth gynnar, roedd darogan yn rhan sylfaenol o fywyd crefyddol y Celtiaid, gyda vates (Gâl) a fili (Iwerddon) yn gyfrifol amdano gan amlaf. Byddai rhai yn derbyn eu gwybodaeth am y dyfodol drwy arsylwadau o ehediadau a galwadau adar. Dull arall ymhlith y Celtiaid oedd darogan yn ôl breuddwydion neu weledigaethau a gafwyd mewn llewyg, neu "swyngwsg",[2] sy'n ffurf ar hypnotiaeth.

Ffurf arall ar ddarogan yw sêr-ddewiniaeth neu "astroleg", sef grŵp o systemau, traddodiadau, a chredoau lle mae gwybodaeth am leoliad planedau yng nghyswllt cytserau'r Sidydd yn galluogi i'r dewin ddeall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaethau pobl a rhagddweud eu dyfodol. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft, roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol. Roedd sêr-ddewiniaeth a'r defnydd o horosgopau yn boblogaidd iawn ymhlith dynion hysbys yng Nghymru, a ddefnyddiai hefyd ddaeargoel i ddarogan y dyfodol.

Geirdarddiad a thermau eraill[golygu | golygu cod]

Tarddiad y gair "dewiniaeth" yw'r Lladin divinatio "darogan", o divinare "rhagweld gydag ysbrydoliaeth ddwyfol"[3], sydd ei hun yn dod o'r gair divinus "dwyfol" (yr un tarddiad â'r gair "diwinydd"), ond a ddefnyddiwyd hefyd i olygu "gweledydd" a "rhagweledydd". Yn wir, gellir ystyried y gair divinus yn yr ystyr "gweledydd" fel tarddiad y gair dewin.

Yn y Gymraeg ceir sawl gair sydd naill ai yn gyfystyr â dewiniaeth neu'n gysylltiedig iddi. Mae'r geiriau hudo, swyno, cyfareddu a swyngyfareddu i gyd yn awgrymu'r weithred o orfodi ewyllys y dewin ar bobl, bodau neu bethau. Defnyddir y gair hud fel gair cyffredin am y pŵer goruwchnaturiol y mae'r dewin yn ei geisio, er gall hefyd olygu swyn, sef y fformiwla ddefodol y mae'r dewin yn ei defnyddio i gael effaith benodol. Mae'r gair rheibio, a gysylltir yn draddodiadol â gwrachod, yn disgrifio swyno er mwyn peri niwed neu ddifrod i bersonau a'u heiddo, neu'r dylanwad neilltuol sy'n cadw dyn neu anifail rhag cyflawni ei briod waith, tra mae dadreibio yn disgrifio ymgais swynol i wrthweithio dylanwadau drwg ar eiddo, nad oes neb yn siŵr sut na pham y daethant.[4] Ceir dewiniaeth wen a dewiniaeth ddu, a elwir hefyd y gelfyddyd wen a'r gelfyddyd ddu. Clywir y fath bolareiddio rhwng da a drwg yng ngeiriau Giovanni Pico della Mirandola; yn ôl yr Eidalwr y mae dwy fath wahanol o ddewiniaeth - y cyntaf yw γοητεια, "Goëtia", dewiniaeth ddu lle mae'r dewin yn cynghreirio gyda chythreuliaid neu ysbrydion drygionus, a'r ail yw Dwyfolwaith, dewiniaeth ddwyfol lle mae'r dewin yn cynghreirio gydag ysbrydion dwyfol, fel angylion a duwiau. O ran ymarferwyr dewiniaeth yn y Gymraeg, ar wahân i wrach (a rheibies) ceir awenyddion yn amser Gerallt Cymro, sef daroganwyr tebyg i'r divinatores,[1] ond Dyn Hysbys yw'r enw mwyaf cyffredin am ddewiniaid a swynwyr yng Nghymru.

Damcaniaethau gwyddonol[golygu | golygu cod]

Diffiniadau anthropolegol[golygu | golygu cod]

Y prif bersbectifau ar ddewiniaeth mewn anthropoleg yw'r persbectif ffwythianyddol, y persbectif symbolaidd, a'r persbectif deallaethol. Defnyddir y tri phersbectif hyn i ddisgrifio sut mae dewiniaeth yn gweithio mewn cymdeithas. Mae'r persbectif ffwythianyddol, a gysylltir yn bennaf â gwaith Bronisław Malinowski, yn honni bod gan bob agwedd ar gymdeithas ei hystyr londer a'i chydberthynas.[5] Yn ôl y persbectif ffwythianyddol, perfformia dewiniaeth swyddogaeth gudd mewn cymdeithas. Astudia'r persbectif symbolyddol ystyr cywrain y defodau a mythau sy'n diffinio cymdeithas[6] yn ogystal â delio â chwestiynau ynglŷn â theodiciaeth. Yn olaf, mae'r persbectif deallaethol, a gysylltir â gwaith Edward Burnett Tylor a gwaith James Frazer, yn gweld dewiniaeth fel rhywbeth sydd yn rhesymegol, ond wedi ei seilio ar ddealltwriaeth ddiffygiol o'r byd,

Meddwl dewinol[golygu | golygu cod]

Mewn anthropoleg, seicoleg a gwyddorau gwybyddol mae "meddwl dewinol" yn derm i ddisgrifio ymresymu achosol anwyddonol sydd yn aml yn cynnwys syniadau fel meddwl cysylltiadol, gallu'r meddwl i effeithio ar y byd ffisegol, a chamgymryd cydberthyniad am arhosiad. Gallai'r meddwl dewinol ddefnyddio mynegiant symbolaidd yn ogystal â throsiad, trawsenwad a chydamserydd. Yn aml caiff ymarferwyr dewiniaeth eu portreadu fel personau anghymarebol, ond mae rhai damcaniaethwyr yn honni nad yw dibenion y dewin o reidrwydd yn faterol, a gall dewiniaeth mewn rhai achosion fod yn effeithiol.

Damcaniaethau seicolegol[golygu | golygu cod]

Mae damcaniaethau seicolegol ar ddewiniaeth yn ei thrin fel ffenomen bersonol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion unigol, mewn cyferbyniad â ffenomen gymdeithasol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion cymunedol. Mae damcaniaethau seicolegol yn amrywio o weld dewiniaeth fel niwrosis, neu weld dewiniaeth fel gwyddoniaeth ddrwg, i weld dewiniaeth fel cais i drin gor-bryder.

Gwreiddiau anthropolegol a seicolegol[golygu | golygu cod]

Siaman y llwyth urarina, 1988.

Mae'r gred y gellir dylanwadu ar bwerau goruwchnaturiol drwy weddïo, offrymu neu gyda blaenweddïadau yn dyddio'n ôl i grefydd gynhanesyddol ac i'w weld mewn cofnodion cynnar megis testunau'r pyramidau a'r Veda.

Yn ôl James Frazer, mae'r meddylfryd sydd yn sylfaen i'r cydsyniad o ddewiniaeth yn tarddu o gyfuniad o ymarferion a chredoau y mae unigolion mewn cymdeithas yn troi atynt er mwyn gwneud lles neu gyrraedd nod, naill ai fel grŵp pan fo rhwystr naturiol yn effeithio yn llym ar gymdeithas (sychder neu anffrwythlonder) ynteu fel unigolyn pan fo angen, er enghraifft, cael gwared â gelyn.

Yn ôl Frazer ceir dau fath o ddewiniaeth.

  • Dewiniaeth sympathetig, lle mae'r cyffelyb yn cynhyrchu'r cyffelyb, sef lle mae efelychiad o weithred yn cael yr un effeithiau ar wrthrych penodol â'r weithred go iawn.
  • Dewiniaeth ddifwynol, lle mae pethau a oedd mewn cysylltiad â gwrthrych yn dal yn gysylltiedig â'r gwrthrych yn dragwyddol, ac felly gellir defnyddio'r pethau i gael effaith ar y gwrthrych serch y pellter rhyngddynt mewn amser a gofod.

Credai Frazer fod dewiniaeth yn system gamarweiniol a honni taw canlyniad anghyffael mewnol oedd arsylwadau dewinol. Gwrthodai eraill syniadau Frazer, yn eu plith Sigmund Freud. Yn ôl Freud, grym dymuniadau oedd yn gyfrifol am arwain dynion cyntefig at ddewiniaeth.

Damcaniaethau ymlynwyr[golygu | golygu cod]

Mae gan ymlynwyr dewiniaeth sawl ddamcaniaeth i esbonio sut gallai dewiniaeth weithio.

  • Grymoedd naturiol cudd nas darganfuwyd eto gan wyddoniaeth, ac efallai ni chânt fyth eu darganfod. Mae'r grymoedd dewinol hyn yn bodoli ochr yn ochr â grymoedd sylfaenol natur fel disgyrchiant ac electromagneteg.
  • Ymyriad ysbrydion, yn debyg i rymoedd naturiol cudd ond gyda'u hymwybyddiaeth a dealltwriaeth eu hun. Bydd credinwyr yn aml yn disgrifio llond cosmos o bob math o ysbryd gyda'u hierarchaethau eu hun.
  • Grym cyfriniol megis mana, numen, tshî, neu kundalini, sy'n bodoli ym mhob peth. Weithiau bydd y grym yn cael ei grynodi i mewn i ryw wrthrych dewinol, megis modrwy, carreg neu swynogl, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y dewin.
  • Grym astudrwydd sef y cred y gall meddwl y dewin gael rheolaeth ar wrthrych neu gyrraedd rhyw nod penodol drwy ganolbwyntio ei feddyliau arno.
  • Grym yr isymwybod sef y cred bod gan yr isymwybod bwerau dewinol gall y dewin eu defnyddio drwy dechnegau amrywiol. Enghraifft o hyn yw techneg y seliau.
  • Cydgysylltiad neu Undod y Cyfan, sef y cred bod pob peth yn y bydysawd yn gysylltiedig â phob peth arall, ac felly gall y dewin defnyddio'r cydgysylltiadau hyn i effeithio ar bethau. Erbyn heddiw ceir amrywiaethau ar y cred hwn sy'n benthyg syniadau oddi wrth feysydd gwyddonol megis ffiseg, mecaneg cwantwm, mathemateg a Damcaniaeth Caos.
  • Dim angen esboniad, hynny yw'r farn nad oes angen esboniad ar y dewin i egluro sut mae dewiniaeth yn gweithio: "os mae'n gweithio, mae'n gweithio."
  • Caniateir i bopeth; nid oes gwirionedd, un o brif ddywediadau dewiniaeth Caos. Yn ôl dewiniaeth caos gall unrhyw baradeim neu ddamcaniaeth fod yn ddilys gan nad yw'r fath beth â gwirionedd yn bodoli mewn unrhyw synnwyr gwrthrychol. Fel canlyniad bydd y dewin Caos yn defnyddio paradeimau ar hap ac ar fympwy.

Ceir llu o ddamcaniaethau eraill, ac yn wir fe fydd llawer o ymlynwyr yn creu eu damcaniaethau eu hun. Ond mae astudrwydd, synfyfyrio a defnydd y dychymyg (neu "weledoleiddio") yn gydsyniadau allweddol i ddewiniaeth yn gyffredin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro, Caerdydd, 1938.
  2. Griffiths, Kate Bosse; Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 83-84 , Y Lolfa 1977.
  3. http://penelope.uchicago.edu/Thayer/E/Roman/Texts/secondary/SMIGRA*/Divinatio.html
  4. Griffiths, Kate Bosse; Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 9-10 , Y Lolfa 1977.
  5. Winthrop, Robert H. Dictionary of concepts in cultural anthropology. Efrog Newydd: Greenwood P, 1991.
  6. Dictionary of anthropology. Rhydychen: Blackwell, 1997.