Tudur Fychan
Oddi ar Wicipedia
Un o deulu Tuduriaid Môn oedd Tudur Fychan neu Tudur ap Goronwy, Arglwydd Penmynydd (bu farw 1367). Roedd yn fab i Goronwy ap Tudur Hen o Drecastell.
Priododd a Margaret ferch Thomas. Bu ganddo o leiaf bedwar mab: Goronwy ap Tudur Fychan, Rhys ap Tudur, Gwilym ap Tudur a Maredudd ap Tudur. Pan aeth mab Maredudd i Lundain, cymerodd enw ei daid i'w alw ei hun yn Owain Tudur yn hytrach nag Owain ap Maredudd.
Canodd Iolo Goch farwnad iddo.