John Wycliffe
Oddi ar Wicipedia
Diwinydd a diwygiwr a chyfieithydd cyntaf y Beibl i'r Saesneg oedd John Wycliffe (tua 1328 - 31 Rhagfyr 1384). Ystyrir Wycliffe fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd, a chyfeirir ato fel "Seren Bore'r Diwygiad".
Ganed Wycliffe tua'r flwyddyn 1328 ger Richmond, Swydd Efrog. Roedd Athro ym Mhrifysgol Rhydychen. Cyfieithodd Wycliffe y Beibl ym 1382 i'r Saesneg. Bu farw yn Lutterworth, Lloegr ym 1384.
Condemniwyd ef fel heretic gan yr Eglwys yng Nghyngor Constance ym 1415. Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar Jan Hus, y diwygiwr crefyddol o'r Weriniaeth Tsiec.