Castell Cricieth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Cricieth

Castell canoloesol Cymreig yw Castell Cricieth, sy'n sefyll ar glogwyn ar lan Bae Tremadog, ar ymyl tref Cricieth, Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae gan y castell dŷ porth cadarn a thri thŵr a gysylltir gan fur amgylchynnol. Mae wedi'i gofrestru gan fel Gradd 1 ac yn cael ei warchod a'i gynnal gan Cadw.

Hanes[golygu]

Y castell o gyfeiriad Pwllheli

Cyfnod y ddau Lywelyn[golygu]

Codwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Lywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd. Dechreuodd Llywelyn Fawr ar y gwaith tua'r flwyddyn 1230 gan godi tŷ porth trawiadol, tŵr petryal de-ddwyreiniol a llenfur oddi amgylch y cwrt mewnol. Ymddengys na ddefnyddiwyd y safle cyn hynny. Mae un traddodiad yn honni fod Llywelyn ap Iorwerth wedi cael ei garcharu yn y castell am gyfnod byr gan ei frawd Dafydd yn ystod y brwydro dros olyniaeth coron Gwynedd.

Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr. Cynhelid ei lys ar gylch yn y castell ar 26 Chwefror, 1274, a diau iddo gael ei ddefnyddio at y perwyl hwnnw ganddo fo a'i ragflaenwyr sawl gwaith cyn hynny.

Ym meddiant Coron Lloegr[golygu]

Cafodd y castell ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei ail ryfel ar Gymru (1282 - 83). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).

Yn ail hanner y 13eg ganrif y marchog enwog Syr Hywel y Fwyall oedd Cwnstabl (ceidwad) y castell.

Gwrthryfel Glyndŵr[golygu]

Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy J.G. Williams, Betws Hirfaen (gw. isod).

Disgrifiad Iolo Goch o'r castell[golygu]

Castell Cricieth

Canodd y bardd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel y Fwyall, rywbryd yn y 1370au efallai. Erbyn yr amser hynny roedd y castell wedi troi'n llys i'r uchelwr lleol o Gymro. Disgrifia Iolo'r castell uwchben tonnau geirw'r môr, y gwŷr wrth y byrddau'n chwareu gemau a'r merched yn llunio brodwaith wrth i'r haul disgleirio trwy'r ffenestri gwydr (peth prin iawn yn y cyfnod hwnnw oedd gwydr)[1]:

Cyntaf y gwelaf mewn gwir
Caer fawrdeg acw ar fordir,
A chastell gwych gorchestawl,
A gwŷr ar fyrddau, a gwawl,
A glasfor wrth fur glwysfaen,
A geirw am groth tŵr gwrm graen...
A'i llawforynion ton teg --
Ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg
Yn gwau sidan glân gloywliw
Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw.[2]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983).
  • J.G. Williams, Betws Hirfaen (Dinbych, 1968)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).
  2. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cestyll Tywysogion Gwynedd Arms of Llywelyn.svg
Abergwyngregyn | Castell Caergwrle | Castell Carndochan | Castell Carn Fadryn | Castell Prysor | Castell y Bere | Castell Cricieth | Castell Cynfael | Castell Degannwy | Castell Dinas Brân | Castell Dinbych | Castell Deudraeth | Dinas Emrys | Castell Dolbadarn | Castell Dolforwyn | Castell Dolwyddelan | Castell Ewlo | Tomen y Rhodwydd