Petula Clark

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Peula Clark
Peula Clark tu allan i ddrws cefn llwyfan Theatr Ed Sullivan, Dinas Efrog Newydd Hydref 1966
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Petula Sally Olwen Clark
Ganwyd (1932-15-11)

Mawrth 11, 1932 (81 oed)

Man geni Baner Lloegr Epsom, Surrey, Lloegr
Galwedigaeth(au) Cantores, actores, cyfansoddwraig
Offeryn(au) cerdd Llais
Blynyddoedd 1939 - presennol
Label(i) recordio Vogue Records
Gwefan [1]

Cantores, actores a chyfansoddwraig Seisnig yw Petula Clark, CBE (ganed 15 Tachwedd 1932), sydd wedi bod yn perfformio am y saith degawd diwethaf.

Dechreuodd gyrfa broffesiynol Clark fel perfformwraig ar Radio'r BBC yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y 1960au, daeth yn adnabyddus am ei chaneuon bywiog gan gynnwys "Downtown," "I Know a Place," "My Love," "Colour My World," "A Sign of the Times," a "Don't Sleep in the Subway". Gwerthodd dros 70 miliwn o recordiau'n fyd-eang, gan ei gwneud y gantores Brydeinig unigol mwyaf llwyddiannus erioed a chyfeirir ati yn y "Guinness Book of World Records".

Mae gan Clark y statws hefyd o'r gyrfa bop rhyngwladol mwyaf hirhoedlog allan o bob cantores benywaidd o Brydain - 55 mlynedd, o 1954 pan aeth "The Little Shoemaker" i 20 Uchaf y DU, i 2009 pan aeth ei CD "Les Indispensables" i 10 Uchaf y siart yng Ngwlad Belg.

Ffilmograffiaeth[golygu]

Dolenni allanol[golygu]