Thomas Jones (Tudno)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Jones
FfugenwTudno Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Ebrill 1844 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 1895 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg St Bees Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Tudno (gwahaniaethu)

Llenor, bardd, newyddiadurwr ac offeiriad oedd Thomas Jones neu Tudno (28 Ebrill 18448 Mai 1895), a aned yn Llandudno, yn yr hen Sir Gaernarfon (Conwy heddiw).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ei athrawon barddol oedd Creuddynfab, Richard Parry (Gwalchmai) ac Elis Wyn o Wyrfai.[1]

Yn ystod ei yrfa fel newyddiadurwr gofalodd am y Llandudno Directory lleol ac yn ddiweddarach ymunodd â bwrdd golygyddol y Carnarvon and Denbigh Herald ac ymsefydlu yng Nghaernarfon. Symudodd i weithio ar y cylchgrawn Y Llais ym Mangor a daeth yn adnabyddus am ei ysgrifau doniol dan y pennawd Dyddlyfr Dafydd Davies.[1]

Aeth yn offeiriad yn 1883 a gwasanaethai mewn sawl tref ledled gogledd Cymru, gan gynnwys Llanrwst. Roedd yn eisteddfodwr mawr ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 am ei awdl "Y Llafurwr".[1] Cyfieithodd waith Thomas Gray a chyfansoddodd gerdd arwrol i Owain Glyndŵr. Dyma ddarn ohono:

Wladgarwyr dewr dadweiniwch gledd --
Ymladdwch wrth ei garn;
A gwaed eich bron cysegrwch fedd
Cyn bod i Drais yn sarn.[1]

Bu farw yn ganol oed yn 1895, tra yn ei Landudno annwyl. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Tudno, ar lethrau'r Gogarth uwchben y môr.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1897). Casgliad o'i gerddi sy'n cynnwys bywgraffiad gan ei hen gyfaill Rowlands (Dewi Môn).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1897)