Sgwrs:Esgyryn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Oes cysylltiad rhwng Esgyryn ac Esgyrn Bryn Pydew, cyfagos? Siwr o fod! Llywelyn2000 20:00, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Rwan rwyt ti'n sôn amdano, dwi'n meddwl mod i wedi clywed 'Esgyrn' fel amrywiad ar yr enw, ond 'Esgyryn' sydd ar y map a'r arwyddion ffordd. Ydy 'Esgyr[y]n Bryn Pydew' yn cyfeirio at yr ardal gyfan, tybed? Achos rhyw gasgliad o gymunedau bychain iawn a ffermydd ar wasgar hyd y bryniau isel sydd yno. Anatiomaros 20:09, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Neu "Esgyrn Bryn Pydew" am ei fod yn gorwedd ger y bryn (Bryn Pydew)? Anatiomaros 20:10, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Roedd rhaid cael asgwrn i grafu yn doedd? Mi fydd yn rhaid tyllu ymhellach.... Llywelyn2000 21:41, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]