Henry Brooke
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Ceidwadol o Sais oedd Henry Brooke, Baron Brooke o Cumnor CH (9 Ebrill 1903 – 29 Mawrth 1984).
Cafodd Brooke yfra hir fel gwleidydd. Treuliodd gyfnod byr fel Ysgrifenydd Cartref yn 1964, yng nghabinet Harold Macmillan. Cafodd ei wneud yn farwn am oes ar ddiwedd y 1960au.
Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei ran fel un o brif hyrwyddwyr y cynllun gan Gorfforaeth Dinas Lerpwl i foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn y cyfnod pan wasanaethodd fel Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig (rhagflaenydd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru), o 1957 hyd 1961.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Philip Dawson |
Aelod Seneddol dros Orllewin Lewisham 1938 – 1945 |
Olynydd: Arthur Skeffington |
| Rhagflaenydd: Charles Challen |
Aelod Seneddol dros Hampstead 1950 – 1966 |
Olynydd: Ben Whitaker |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Rab Butler |
Ysgrifennydd Cartref 14 Gorffennaf 1962 – 16 hydref 1964 |
Olynydd: Syr Frank Soskice |