Dafydd Goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mab llwyn a pherth y Tywysog Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru (m. 1283) a'r unig un o'i feibion i'w oroesi oedd Dafydd Goch neu Dafydd ap Dafydd ap Gruffudd (ganed yn y 1270au, efallai).

Cefndir[golygu]

Bu Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd a Chymru, yn briod ag Elizabeth Ferrers a gwyddys iddo gael dau fab cyfreithlon, sef Llywelyn ac Owain, ac un ferch gyfreithlon, Gwladys. Bu farw'r ddau fab yn garcharorion alltud yng Nghastell Bryste tra daliwyd Gwladys am ei hoes yng Nghwfent Sixhills, Swydd Lincoln. Yn ôl rhai ffynonellau roedd gan Dafydd saith ferch anghyfreithlon arall hefyd, ond ni wyddys dim amdanynt.

Bywgraffiad[golygu]

Ychydig iawn a wyddom am fywyd Dafydd Goch. Mae ei lysenw yn awgrymu ei fod yn gochyn. Cyfeirir ato mewn rhai o'r achresrtau fel 'Dafydd Goch Penmachno', sy'n awgrymu'n gryf iddo fyw yn ardal Penmachno. Yn ôl yr achau Cymreig, ei fam oedd Tangwystl ferch Owain Fflam, sydd fel arall yn anhysbys. Priododd ferch o'r enw Angharad ferch Heilyn.

Cafodd o leiaf un mab, Gruffudd ap Dafydd Goch, a fu farw tua'r flwyddyn 1365: cafodd ei gladdu yn eglwys Betws-y-Coed lle ceir beddfaen cerfiedig sy'n rhoi ei achau.

Roedd disgynyddion Gruffudd yn cynnwys dau fardd o ardal Nant Conwy, sef Gruffudd Leiaf, y cedwir englyn ganddo yn un o lawysgrifau Cwrtmawr, a'i fab Ieuan ap Gruffudd Leiaf a ganodd gywyddau ac awdlau i deuluoedd Penrhyn ac uchelwyr Nant Conwy, cerdd i abaty Aberconwy, dychan ar Afon Llugwy, ac ymryson barddol rhyngddo a Guto'r Glyn.

Cyfeiriadau[golygu]