Tŷ Hyll

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Tŷ Hyll)
Tŷ Hyll
Math, tŷ unnos Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCapel Curig Edit this on Wikidata
SirCapel Curig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr132.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1005°N 3.8583°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Bwthyn hynafol yn Eryri yw'r Tŷ Hyll, sy'n gorwedd ar bwys y ffordd A5 tua hanner ffordd rhwng Capel Curig a Betws-y-coed ar gwr Coedwig Gwydir. Cyfeirnod AO: SH 756 576. Mae'n bencadlys Cymdeithas Eryri. Mae ar agor i'r cyhoedd ac yn denu nifer o ymwelwyr.

Tŷ Hyll.

Mae'r "Tŷ Hyll" yn enghraifft brin o dŷ unnos yng Nghymru. Ni wyddom lawer am ei hanes cynnar, ond yn ôl traddodiad cafodd ei adeiladu gan ddau frawd ar herw yn y 15g. Yn ôl yr hen arfer, pe bai rhywun yn medru codi pedwar wal rhwng machlud yr haul a'r wawr a chael mŵg yn dod allan o'r simnai erbyn y bore roedd ganddo hawl i'r adeilad a'r tir o'i gwmpas, a gafwyd trwy daflu bwyall i'r pedwar ban a hawlio'r tir rhwng y pedwar pwynt hynny.[1]

Fodd bynnag, ymddengys bod rhannau o'r tŷ presennol yn dyddio o ddechrau'r 19g ac iddo gael ei drwsio'n sylweddol gan lafurwyr a weithiai ar y ffordd A5 newydd. Roedd dyn yn byw yn y tŷ hyd y 1960au ond aeth yn adfail ar ôl hynny. Cafodd ei brynu gan Gymdeithas Eryri yn 1988 a'i atgyweirio'n ofalus gan wirfoddolwyr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-04. Cyrchwyd 2010-03-17.
  2. "Y Tŷ Hyll". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-27. Cyrchwyd 2010-03-17.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]