Hywel Coetmor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beddrod Hywel Coetmor yng Nghapel Gwydir, Eglwys Sant Grwst, Llanrwst

Uchelwr o Nant Conwy a chwareodd ran flaenllaw yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr oedd Hywel Coetmor (bu farw tua 1440). Yn ddiweddarach bu'n ymladd ym myddin brenin Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hywel yn ddisgynydd i'r Tywysog Llywelyn Fawr ac felly'n perthyn i linach brenhinol teyrnas Gwynedd. Ei dad oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch ap Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Ei frawd oedd Rhys Gethin, un o brif gapteiniaid Glyndŵr.

Yn 1390 apwyntiwyd clerigwr o Sais i ofalaeth plwyf Llanrwst gan Archesgob Caergaint. Ymateb yr uchelwyr lleol oedd gorfodi'r Sais uniaith i ymadael ar frys a dwyn ei eiddo. Dau o arweinwyr yr ymosodiad gwrthryfelgar oedd Hywel Coetmor a'i frawd Rhys Gethin.

Pan dorrodd gwrthryfel Glyndŵr allan yn 1400 ymunodd Hywel a Rhys ag Owain. Ymddengys iddo dderbyn pardwn ar ddiwedd y gwrthryfel, a chofnodir ei fod yn un o'r capteiniaid ym myddin Harri V, Brenin Lloegr ym Mrwydr Agincourt yn 1415. Ef oedd y cyntaf i adeiladu plasdy ar safle Plas Gwydir; yn ddiweddarach fe'i gwerthwyd gan ei fab, Dafydd ap Hywel Coetmor, i deulu'r Wynniaid. Roedd hefyd yn amlwg fel noddwr beirdd.

Claddwyd Hywel Coetmor yn Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst, lle mae'r cerflun ohono i'w weld o hyd, er ei fod wedi ei symud o'i safle wreiddiol.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cerdd o foliant iddo gan fardd anhysbys sy'n ei gyfarch fel "Hywel Cymro, o hil Cymry," sydd o linach Llywelyn (Fawr), ac yn cyfeirio ato fel "cur y Saeson" mewn cwpled sy'n cyfeirio at Owain Glyndŵr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Henry Lewis, Thomas Roberts, Ifor Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1937), cerdd XXXVII.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]