Inigo Jones

Oddi ar Wicipedia
Inigo Jones
Portread o Inigo Jones gan William Hogarth, ar ôl gwaith gan Antoon van Dyck
Ganwyd15 Gorffennaf 1573 Edit this on Wikidata
Llundain, Smithfield Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1652 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, gwleidydd, cynllunydd llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1621-22 Parliament Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEglwys Sant Paul, Queen's Chapel Edit this on Wikidata
Mudiadpensaernïaeth y Dadeni Edit this on Wikidata

Pensaer Seisnig o dras Gymreig oedd Inigo Jones (15 Gorffennaf 157321 Mehefin 1652).[1] Ef sydd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r arddull glasurol i bensaernïaeth yng ngwledydd Prydain.

Ganwyd Inigo Jones yn Smithfield, Llundain, yn fab i weithiwr brethyn Cymreig a oedd hefyd yn dwyn yr enw anghyffredin 'Inigo'. Ar daith i'r Eidal ym 1613 daeth yn ymwybodol o adeiladau Andrea Palladio yn y Veneto a'i ysgrifau ar bensaernïaeth. Bu'r rhain, ynghyd â gwaith yr awdur a phensaer Rhufeinig Vitruvius, yn ysbrydoliaeth mawr iddo. O 1615 hyd 1642 bu Inigo yn bensaer i'r llys brenhinol (Surveyor of the King's Works), yn gwasanaethu'r brenhinoedd Iago I a Siarl I. Yn y cyfnod yma cynlluniodd Tŷ'r Frenhines yn Greenwich, yr adeilad glasurol gyntaf yng ngwledydd Prydain, a'r Tŷ Gwledda ym Mhalas Whitehall. Hefyd, ef oedd y pensaer a gynlluniodd Covent Garden Piazza, y sgwâr ffurfiol cyntaf yn Llundain.

Claddwyd ef yn Uwcheglwys San Bened yn Ninas Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hart, Vaughan (2011). Inigo Jones: The Architect of Kings (yn Saesneg). Yale University Press. ISBN 9780300141498.


Oriel[golygu | golygu cod]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.