Rhys Fawr ap Maredudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwith i dde: Lowri, Rhys a'u mab Robert. Cafodd y cerfluniau eu creu tua 1483. Gwelir cadwen a chroes am wddf Rhys.

Milwr Cymreig ac uchelwr a frwydrodd ar ochr Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth oedd Rhys Fawr ap Maredudd neu Rhys Fawr ap Maredydd o Hiraethog, a dyn o gryfder a maint aruthrol.[1] Dywedir iddo fod yn gyfrifol am faner y Ddraig Goch ar faes y gad, yn dilyn marwolaeth Syr Henry Brandon.

Cefndir[golygu]

Roedd yn byw ym Mhlas Iolyn yn Ysbyty Ifan (Sir Conwy heddiw) a gellir gweld cofeb iddo ef a'i wraig Lowri a'u mab Rhobert ap Rhys yng Nghapel Pantglas, yn eglwys y plwyf, lle cafodd ei gladdu.[2] Roedd yn dal yn fyw yn 1510, ond ni wyddys union ddyddiad ei farwolaeth.

Roedd o linach uchelwrol ac ymfalchiai y gallai olrhain ei gyndadau 500 mlynedd, i Marchweithian - un o sefydlwyr pymtheg llwyth Gwynedd. Cadarnhaodd Edward Lhuyd yn Rhydychen yn 1707 ac eraill wedyn ddilysrwydd ei linach ddi-dor. Roedd Rhys hefyd yn gyfoethog iawn. Cafodd Lowri a Rhys bump mab a chwech o ferched.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Teulu Plas Iolyn gan Dr. Enid Pierce Roberts.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. History of Powys Fadog' gan J. Y. W. Lloyd, 1882; cyfrol 3 tud 341-2
  2. Bosworth Field gan Emyr Wyn Jones, Modern Welsh Publications, 1984; tud 28-29.