Krakatoa
Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Krakatoa 01.JPG
Krakatoa
Llosgfynydd a grŵp o ynysoedd bach yng Nghulfor Sunda yn Indonesia, rhwng Java a Sumatra, yw Krakatoa; yr enw lleol arno ydy Krakatau.
Yn ystod mis Awst, 1883, ffrwydrodd Krakatoa. Collwyd tua 35,000 o fywydau ac effeithiwyd ar hinsawdd y byd.
Diflanodd tua 65% o'r mynydd a dinistriwyd pentrefi a choed filltiroedd i ffwrdd.